Skip to main content

Safon Uwch Daearyddiaeth

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Yn y byd modern, eang sy’n newid yn barhaus, mae astudio daearyddiaeth yn bwysicach nag erioed oherwydd mae’n ein helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu. Fel y dywedodd Barack Obama: “Mae’n ymwneud â deall cymhlethdod ein byd,” ac mae daearyddiaeth yn unigryw o ran pontio’r gwyddorau cymdeithasol a’r gwyddorau naturiol. 

Mae’r meysydd astudio’n cynnwys:

  • Peryglon tectonig a’u rheoli 
  • Heriau ac adfywio trefol 
  • Tirffurfiau a phrosesau arfordirol 
  • Systemau byd-eang gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a llifogydd 
  • Llywodraethu byd-eang gan gynnwys rheoli ymfudo a chefnforoedd 
  • Twf a heriau economaidd yn yr India.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg laith
  • O leiaf radd C mewn Daearyddiaeth (os cymerwyd ar lefel TGAU)

Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth gyda 4.5 awr o amser addysgu. Bydd teithiau maes hanfodol trwy gydol y cwrs i Benrhyn Gŵyr, canol dinas Abertawe ynghyd â thaith breswyl deuddydd i arfordir Jwrasig Dorset. Yn ogystal, bydd cyfle i fyfyrwyr deithio dramor. 

Addysgir maes llafur CBAC ac asesir trwy ddau arholiad yn y flwyddyn gyntaf, dau arholiad yn yr ail flwyddyn a phrosiect gwaith cwrs unigol. 

I'r rhai a hoffai symud ymlaen i gwrs gradd Daearyddiaeth, gallwch fod yn dawel eich meddwl bod gan raddedigion daearyddiaeth enillion a chyfraddau cyflogaeth uwch na’r cyfartaledd. Gall hyn arwain at amrywiaeth eang iawn o yrfaoedd megis cadwraeth forol, ymgynghori amgylcheddol, cynllunio trefol, dadansoddi llygredd, atal llifogydd a rheoli perygl. Yn ogystal, mae Safon Uwch Daearyddiaeth hefyd yn cael ei ystyried yn bwnc hwyluso ac yn bwnc STEM a all helpu gyda mynediad i gyrsiau cystadleuol. Mae hefyd yn cyfrannu’n dda at y rhai sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd mewn busnes, economeg, y gyfraith a’r gwyddorau.

Mae’r daith maes breswyl i Dorset yn costio £100 – ond mae’r costau hyn wedi’u talu i fyfyrwyr FfCCh.