Skip to main content

Safon Uwch Daeareg

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Cwrs cynhwysfawr sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o destunau mewn Gwyddor y Ddaear a Phalaeontoleg. Byddwch yn astudio peryglon naturiol sy’n wynebu pobl fel daeargrynfeydd a tswnamïau, a sut y gellir leihau’r risgiau hyn trwy ragfynegi, atal neu reoli peryglon. Byddwch hefyd yn dysgu am y defnydd cynaliadwy o adnoddau o’r ddaear sy’n hanfodol ar gyfer yr 21ain ganrif.

Trosolwg o'r cwrs:

  • Deall egwyddorion defnyddiau o fewn y prosesau yn y gylchred greigiau
  • Deall graddfa amser yn enwedig yng nghyd-destun tectoneg platiau
  • Deall bywyd a hinsawdd y gorffennol yng nghylchredau naturiol y Ddaear
  • Deall rôl daearegwyr mewn geoberyglon a rheoli adnoddau cynaliadwy.

Canlyniadau’r cwrs:

  • Egluro cysyniadau sylfaenol gwyddor ddaearegol a’i chymwysiadau
  • Dadansoddi a dehongli lleoliadau daearegol o waith maes
  • Egluro sut mae daearegwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn llwyddiant cynaliadwy’r economi a chymdeithas.

Gwybodaeth allweddol

  • Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith
  • Gradd B mewn TGAU Mathemateg a gradd C mewn TGAU Gwyddoniaeth
  • Nid oes angen cymhwyster TGAU Daearyddiaeth neu Ddaeareg
  • Ymrwymiad a brwdfrydedd dros ryfeddodau gwyddonol Planed y Ddaear.

4.5 awr yr wythnos mewn darlithoedd. O leiaf bedair taith maes dros ddwy flynedd. Tri chwrs Moodle gan gynnwys y ‘Brif Dudalen’, ‘Daeareg yn y Newyddion’ a ‘Datblygu Sgiliau Mathemategol mewn Daeareg’. Mae portffolio myfyriwr o fath ‘gwaith cwrs’ sy’n cwmpasu 20 sesiwn ymarferol wahanol.

Arholiadau:

  • C1 - Ymchwiliadau Daearegol - (35%) - cwestiynau ymateb i ddata ac ymholiad ymarferol ar sbesimenau a map du a gwyn
  • C2 - Egwyddorion a Phrosesau Daearegol - (30%) cwestiynau ymateb i ysgogiad sy’n gofyn am atebion byr, strwythuredig ac estynedig. (83 gair)
  • C3 - Cymwysiadau Daearegol (35%) cwestiynau ymateb i ysgogiad sy’n gofyn am atebion byr a strwythuredig. Ymchwiliad map lliw BGS.

Addysgu llinol: Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am ddarpariaeth linol yn eich cyfweliad. Mae darpariaeth linol yn golygu efallai na fydd gennych yr opsiwn o sefyll arholiad UG ar ddiwedd eich blwyddyn gyntaf.

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio Daeareg mewn prifysgolion yng Nghaerdydd, Caerwysg, Portsmouth a Plymouth. Mewn polisi diweddar gan y llywodraeth o’r enw ‘Strategaeth Fwynau Critigol y DU’, ymrwymodd y llywodraeth i ganolbwyntio ar y gadwyn gyflenwi mwynau hollbwysig, gan gynnwys hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ddaearegwyr, peirianwyr a thu hwnt. Mae daearegwyr, daearegwyr peirianneg, geoffisegwyr a hydroddaearegwyr i gyd ar y ‘Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder’ felly mae’r dyfodol yn ddisglair i wyddonwyr y Ddaear!

Hefyd, ar hyn o bryd mae llawer o gyfleoedd gyrfa ar brosiectau seilwaith fel HS2 ac adfer tir sydd wedi’i ddifrodi mewn lleoedd fel hen safleoedd tir llwyd yn Ne Cymru.