Skip to main content

Trin Gwallt Lefel 3 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 3
VRQ
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Trosolwg

Yn ystod y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn datblygu eich sgiliau trin gwallt uwch, gan weithio ar gleientiaid mewn amgylchedd salon masnachol. Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau gofynnol i weithio’n effeithiol fel triniwr gwallt uwch.

Mae meysydd astudio yn cynnwys:

  • Iechyd a diogelwch
  • Ymgynghori â chleientiaid
  • Torri creadigol
  • Lliwio gwallt yn greadigol
  • Steilio gwallt yn greadigol
  • Hyrwyddo.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf dair gradd C neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith
  • Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt
  • Sgiliau trin gwallt sylfaenol da a dealltwriaeth dda o theori trin gwallt
  • Uchel eich cymhelliant â diddordeb angerddol yn y diwydiant.

Mae asesiadau yn barhaus drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys arsylwadau ymarferol a phrofion ac aseiniadau ysgrifenedig.

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys gweithio fel steilydd mewn salon masnachol, llongau mordeithio, perchennog salon.

Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs.

Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.