Skip to main content

Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur Lefel 3 - Prentisiaeth

Rhan-amser, Prentisiaeth
Lefel 3
C&G
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Mae’r cwrs cynhwysfawr dwy flynedd hwn yn darparu’r wybodaeth ddamcaniaethol angenrheidiol, y sgiliau ymarferol a’r hyfforddiant penodol i’r diwydiant i’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant modurol. 

Modiwlau  

  • Iechyd a diogelwch 
  • Systemau trawsyriant 
  • Injans 
  • Canfod namau 
  • Llywio a hongiad 
  • Systemau trydanol.

Gwybodaeth allweddol

Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) neu Gynnal a Chadw Cerbydau Modur (Diploma Lefel 2) 

Mae’r cyfuniad hwn o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a hyfforddiant yn y gweithle yn rhoi modd i chi ddatblygu sylfaen ddamcaniaethol gref wrth ennill profiad ymarferol dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol. Mae’n sicrhau eich bod yn cael addysg gyflawn a’ch bod yn barod ar gyfer galwadau gyrfa mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur.

Mae dilyniant i lefelau addysg a hyfforddiant uwch, fel Lefelau 4, 5 a 6, yn gallu darparu gwybodaeth a sgiliau ychwanegol ar gyfer rolau fel technegwyr goruchwylio neu reolwyr. 

Mae’r eitemau canlynol yn offer hanfodol er mwyn cwblhau’r cwrs: 

  • Cyfarpar diogelwch personol sy’n cydymffurfio â safonau Prydeinig 
  • Nwyddau ysgrifennu amrywiol 
  • Trwydded pecyn dysgu electronig Electude.