Skip to main content

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 3
Welsh Bac
Tycoch, Gorseinon
Dwy flynedd
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch), 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Mae cymhwyster BSCU Lefel 3 yn eich cynorthwyo i fod yn ddinesydd effeithiol, cyfrifol a gweithgar, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol neu fyd gwaith.  

Dros y ddwy flynedd byddwch yn ymgymryd â’r Prosiect Cymuned Fyd-eang, Prosiect Cyrchfan y Dyfodol, a Phrosiect Unigol. 

Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau sy’n ddeniadol i gyflogwyr, colegau a phrifysgolion gan gynnwys: 

Sgiliau cyfannol

  • Cynllunio a threfnu 
  • Meddwl yn feirniadol a datrys problemau 
  • Creadigrwydd ac arloesedd 
  • Effeithiolrwydd personol

Sgiliau mewnblanedig

  • Llythrennedd 
  • Rhifedd 
  • Cymhwysedd digidol

Byddwch yn defnyddio ac yn cymhwyso’r pedwar Sgìl Cyfannol a chewch gyfleoedd i ddatblygu’r tri Sgìl Mewnblanedig. Byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a chyd-destunau cyffrous fydd yn seiliedig ar agenda datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a Nodau Lles Cymru fel y diffinnir hwy gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). 

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg 

Dros y ddwy flynedd byddwch yn astudio: 

Prosiect Cymuned Fyd-eang (25%) 
Byddwch yn dewis problem fyd-eang i ymchwilio iddi, rhannu eich gwybodaeth ag eraill a chymryd rhan mewn gweithred gymunedol. 

Prosiect Cyrchfan y Dyfodol (25%) 
Byddwch yn ennill dealltwriaeth ohonoch chi’ch hun, archwilio cyflogaeth yn y dyfodol a nodau lles, a chynllunio sut rydych chi’n gallu cyflawni hyn. 

Prosiect Unigol (50%) 
Byddwch yn cynllunio, rheoli ac ymchwilio i bwnc cysylltiedig â’ch addysg neu’ch dyheadau gyrfa yn y dyfodol, a chreu traethawd ysgrifenedig neu arteffact. 

Gall asesiadau gael eu cynnal drwy gydol dwy flynedd y cwrs gyda chymedroli allanol yn digwydd ym mis Ionawr a mis Mai. 

Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi modd i chi ddatblygu sgiliau pwysig y gallwch fynd â nhw gyda chi i’r brifysgol, hyfforddiant, neu gyflogaeth. 

Bydd datblygu’r sgiliau hyn yn eich helpu i fod yn ddinesydd effeithiol, cyfrifol a gweithgar a gallant gael effaith ddofn ar eich lles a’ch llwyddiant yn y dyfodol. 

Yn debyg i amrywiaeth o gyrsiau, byddwch yn gallu teilwra’r sgiliau a ddatblygwyd i amrywiaeth o bynciau academaidd a galwedigaethol.