Skip to main content

Tystysgrif mewn Hyfforddi Ffitrwydd YMCA

Rhan-amser
Lefel 2
YMCA
Tycoch
16 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Nod y cymhwyster hwn yw darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i ddysgwyr gynllunio, cyflwyno a gwerthuso sesiynau hyfforddi ffitrwydd diogel ac effeithiol trwy gyd-destun ymarfer corff yn y gampfa.

Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn gallu cael mynediad i’r Gofrestr Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer Corff (REP) ar Lefel 2.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf. Nid oes unrhyw ofynion dysgu blaenorol penodol a argymhellir ar gyfer y cymhwyster hwn. Fodd bynnag, gallai dysgwyr ei chael yn ddefnyddiol os ydynt eisoes wedi cwblhau cymwysterau mewn maes cysylltiedig ar Lefel 1.

Mae gofyn i ddysgwyr gwblhau pedair uned orfodol ac mae hyn yn sicrhau eu bod yn ennill dealltwriaeth o gyfarwyddyd ffitrwydd. 

Bydd dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu gwybodaeth ddamcaniaethol o’r pwnc, gan gynnwys anatomeg a ffisioleg ynghyd â datblygu eu sgiliau ymarferol. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth sylfaenol o’r gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n sail i’r holl waith yn y sector hwn e.e. gweithio gyda chleientiaid, iechyd a diogelwch yn y sector ffitrwydd, sgiliau gweithio mewn tîm, dysgu myfyriol, hunanddisgyblaeth, bod ag agwedd gadarnhaol a chydweithredol, hunanasesiad o gryfderau a gwendidau, hunan-welliant a datblygiad, parch at eraill a gallu trafod a rhoi sylwadau cadarnhaol ar waith pobl eraill. 

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys chwe uned:

  • Anatomeg a ffisioleg ar gyfer ymarfer corff
  • Gwybod sut i gefnogi cleientiaid sy’n cymryd rhan mewn ymarfer corff a gweithgarwch corfforol
  • Iechyd, diogelwch a lles mewn amgylchedd ffitrwydd
  • Egwyddorion ymarfer corff, ffitrwydd ac iechyd
  • Cynllunio ymarfer corff yn y gampfa
  • Hyfforddi ymarfer corff yn y gampfa.

Bydd y cymhwyster yn rhoi mewnwelediad da i ddysgwyr o’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt, nid yn unig ar gyfer gweithio yn y sector hwn, ond sgiliau generig, trosglwyddadwy y byddai pob cyflogwr yn eu croesawu. Mae’r dewis o unedau a gynigir ar draws Lefel 2 yn rhoi cyfle i ddysgwyr arddangos amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Gallai dysgwyr sy’n dilyn y cymhwyster hwn symud ymlaen i addysg bellach, gan gynnwys y cymwysterau canlynol:

  • NVQ Lefel 2 mewn Galwedigaethau Chwaraeon, Hamdden a Pherthynol 
  • NVQ Tystysgrif Lefel 2 mewn Arweinyddiaeth Gweithgareddau 
  • NVQ Diploma Lefel 2 mewn Hyfforddi Ymarfer Corff a Ffitrwydd 
  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol.