Skip to main content

Therapi Tylino Chwaraeon Lefel 3 - Diploma Available in Welsh

Rhan-amser
Lefel 3
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
34 wythnos
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Arolwg

Mae VTCT Diploma Lefel 3 mewn Therapi Tylinoi Chwaraeon yn datblygu’r  wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau technegol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa fel therapydd tylino chwaraeon.  

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau gofynnol i weithio’n effeithiol ac yn effeithlon fel therapydd tylino chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys anatomeg a ffisioleg, arferion proffesiynol, dealltwriaeth o egwyddorion iechyd a ffitrwydd a sut i ddarparu triniaethau tylino chwaraeon. Bydd y therapydd tylino chwaraeon Lefel 3 yn gallu gweithio’n ddiogel ac yn effeithiol ar feinwe gamweithredol mewn amrywiaeth o gyd-destunau, at ddibenion cyn y digwyddiad, ar ôl y digwyddiad, yn ystod y digwyddiad ac at ddibenion cynnal a chadw. 

  • Anatomeg a ffisioleg ar gyfer tylino chwaraeon  
  • Egwyddorion iechyd a ffitrwydd  
  • Deall egwyddorion camweithredu meinwe feddal  
  • Arferion proffesiynol mewn tylino chwaraeon  
  • Triniaethau tylino chwaraeon.

Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT.  

Gwybodaeth allweddol

  • Cyfweliad 
  • Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1. 

Asesiad ymarferol parhaus, arholiadau, astudiaethau achos ac aseiniadau ysgrifenedig. Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol.  

Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn yn gallu cael cyflogaeth ac yswiriant i weithio fel therapydd tylino chwaraeon i weithio fel therapydd tylino chwaraeon neu gallant symud ymlaen i: 

Tystysgrif Lefel 4 mewn Therapi Tylino Chwaraeon 

Rhaid i ddysgwyr brynu crys polo.   

Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.