Skip to main content

Barbro Lefel 2 - Tystysgrif

Rhan-amser
Lefel 2
C&G
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
34 weeks (3.5 hours a week)
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Arolwg

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn datblygu sgiliau barbro sylfaenol a gweithio ar gleientiaid a’ch modelau eich hun mewn amgylchedd salon masnachol. Mae meysydd astudio’n cynnwys: 

  • Iechyd a diogelwch 
  • Gweithio yn y diwydiant gwallt 
  • Ymgynghori â chleientiaid 
  • Siampŵo a chyflyru gwallt 
  • Torri gwallt dynion 
  • Torri a siapio blew wyneb ar ddynion (barf a mwstash) 
  • Steilio gwallt dynion 
  • Hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau i gleientiaid.

Bydd asesiadau parhaus drwy gydol y flwyddyn academaidd gan gynnwys arsylwadau ymarferol ar gleientiaid a modelau yn y salon. Bydd profion ar-lein a gwaith aseiniad a ddefnyddir i asesu gwybodaeth theori ar gyfer pob uned.  

Gwybodaeth allweddol

  • Amrywiaeth o raddau D neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys, yn ddelfrydol, Saesneg Iaith a Mathemateg neu gymhwyster NVQ Trin Gwallt Lefel 1 
  • Bydd angen cymhwyster ESOL Lefel 1 ar yr ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt 
  • Bydd angen i ddysgwyr fod yn uchel eu cymhelliant ac yn frwdfrydig â sgiliau cyfathrebu da a’r gallu i weithio mewn tîm. 

Byddwch yn dod i’r Coleg am 1 noson yr wythnos 5-9 pm.  

Bydd y rhan fwyaf o’ch amser yn cael ei dreulio yn y salonau masnachol gan ddatblygu sgiliau ymarferol a gweithio ar gleientiaid neu eich modelau eich hunain. Yn ogystal, bydd gwersi yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer gwybodaeth theori. 

Dilyniant i’r diwydiant neu i gyrsiau cysylltiedig eraill fel trin gwallt menywod.

Bydd rhaid i ddysgwyr dalu am y cwrs a phrynu cit sy’n cynnwys offer, gwisg a phortffolio. Bydd costau ar gael yn ystod y cyfweliad.

Explore in VR