Skip to main content
Myfyrwyr Mynediad yn canolbwyntio ar lesiant

Myfyrwyr Mynediad yn canolbwyntio ar lesiant

Cafodd myfyrwyr Mynediad yng Ngholeg Gŵyr Abertawe eu gwahodd i gynhadledd Mynediad a Diwrnod Llesiant ar gampws Gorseinon.

Gyda chymysgedd o anerchiadau, sesiynau holi ac ateb ac ymarferol, roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar y meddwl, rheoli amser, bwyta'n iach a'r systemau cymorth amrywiol sydd yn eu lle yn y Coleg i helpu dysgwyr yn ystod y flwyddyn academaidd brysur.

“Dyma'r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad o'r fath ac roedd y tîm Mynediad yn teimlo ei bod hi'n bwysig iawn i dreulio diwrnod yn canolbwyntio ar anghenion cyfannol y dysgwr,” meddai'r Arweinydd Cwricwlwm Suzanne Arnold. “Gobeithio y bydd y diwrnod yn helpu myfyrwyr i barhau i ganolbwyntio, bod yn hyderus a chadw'n iach yn ystod eu hamser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe .”

Ymysg y siaradwyr gwadd oedd Nick Owen, Uwch Ddarlithydd Prifysgol Abertawe yng Nghanolfan Ymchwil Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddyginiaeth (A-STEM), Tracey a Jonathan Ridd o Sefydliad Paul Ridd a Tracy Williams, Darlithydd Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe, a roddodd anerchiad ar wneud cais am le i astudio nyrsio.