Skip to main content

Llwyddiant cenedlaethol I fyfyrwyr yn yr Urdd

Bu llwyddiant arbennig i’n myfyrwyr yng nghategorïau Celf, Dylunio a Thechnoleg, yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ddiweddar. 

  • Gwaith Creadigol 2D dan 19 oed – 1af Emily Arnold | 2il Amelia Hill
  • Print Lliw Ffotograffiaeth dan 19 oed – 3ydd Natasha Butchers
  • Argraffu dan 19 oed – 3ydd Max Arnold
  • Gwaith Creadigol 3D Tecstilau Bl. 10 a dan 19 oed -  1af Dilwen Pitt
  • Ffasiwn dan 19 oed – 1af Ella Waters
  • Celf dan 19 oed – 2il Max Arnold
  • Dylunio a Thechnoleg dan 19 oed -  1af Luke Macbride

Yn ogystal â hyn aeth gwobr arbennig y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg i Luke Macbride am gyflwyno’r darn o waith gorau i’r rhai dan 19 o’r holl gystadlaethau celf, dylunio a thechnoleg yn yr eisteddfod.  Bydd Luke yn derbyn ei fedal mewn seremoni arbennig yn y pafiliwn ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Llun 28ain Fai. 

“Mae Luke a Dilwen yn astudio ar gwrs Safon Uwch Tecstilau gyda Donna McCann Gray ar gampws Gorseinon, a gweddill y myfyrwyr i gyd ar gwrs Celf Gain gyda Gill Day-Thomas a Nigel Williams,” meddai ein Hyrwyddwr Dwyieithrwydd, Anna Davies.  “Diolch yn fawr iddyn nhw am annog y myfyrwyr i gystadlu.  Hoffwn ddweud llongyfarchiadau mawr i’r holl fyfyrwyr uchod, sydd wedi llwyddo mewn cystadleuaeth uchel ei pharch.”

Mae Eisteddfod yr Urdd eleni yn cael ei chynnal ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yn ystod hanner tymor mis Mai.  Mae’r holl enillwyr yn cael eu gwahodd i dderbyn eu tystysgrif a medal ar ddydd Sadwrn 2il Fehefin.