Skip to main content

Cadw Cyfrifon Lefel 3 - Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) Tystysgrif

Rhan-amser
Lefel 3
AAT
Sketty Hall

Arolwg

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prosesau ariannol gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau cyfrifyddu, cadw cyfrifon lefel uwch a pharatoi datganiadau ariannol. Byddwch hefyd yn deall materion busnes sy’n ymwneud â chyflogres a threth ar werth (TAW) (a all fod yn gyfarwydd fel enw arall mewn gwledydd eraill). Bydd hyn oll yn cael ei ddysgu yng nghyd-destun y materion moesegol y gall ceidwad llyfrau ddod ar eu traws yn ei fywyd proffesiynol.

Mae’r unedau’n cynnwys:-
Cyfrifyddu Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol

Mae’r uned yn cwmpasu’r canlynol: - Deall yr egwyddorion cyfrifyddu sy’n sail i baratoi cyfrifon terfynol, deall egwyddorion cadw cyfrifon cofnod dwbl uwch, gweithredu gweithdrefnau ar gyfer caffael a gwaredu asedau anghyfredol, paratoi a chofnodi cyfrifiadau dibrisiant, cofnodi addasiadau diwedd cyfnod, cynhyrchu ac ymestyn y fantolen brawf, cynhyrchu datganiadau ariannol ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau, dehongli datganiadau ariannol gan ddefnyddio cymarebau proffidioldeb, paratoi cofnodion cyfrifyddu o wybodaeth anghyflawn.

Prosesau Treth ar gyfer Busnes
Mae’r uned yn cwmpasu’r canlynol: - Deall gofynion deddfwriaeth sy’n ymwneud â TAW, cyfrifo TAW, adolygu a gwirio ffurflenni TAW, deall egwyddorion cyflogres, adrodd ar wybodaeth o fewn y sefydliad.

05/07/23

Gwybodaeth allweddol

Yn ddelfrydol, bydd myfyrwyr yn meddu ar un neu ddwy radd A-C ar lefel TGAU, o bosib cymhwyster AAT Lefel 2 mewn Cadw Cyfrifon neu gymhwyster tebyg, ond mae synnwyr cyffredin a gallu am rifau ac amcangyfrif yn fwy pwysig. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Addysgir y cwrs trwy ddarlithoedd ystafell ddosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol. Asesiadau ar-lein yw’r arholiadau.

Bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i’r cymhwyster AAT Lefel 3 llawn. Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

Gallai’r cwrs hwn gael ei ariannu trwy ein Cynllun Prentisiaeth – gofynnwch am ragor o fanylion.