Skip to main content

Technoleg Ewinedd Lefel 2 - Tystysgrif Available in Welsh

Rhan-amser
Lefel 2
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
34 weeks
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Trosolwg

Mae Dyfarniad VTCT Lefel 2 mewn Technoleg Ewinedd yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol i ddysgwyr sy’n ceisio gyrfa fel technegydd ewinedd cyflogedig neu hunangyflogedig. 

Mae’r cymhwyster yn cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i weithio’n effeithiol fel technegydd ewinedd megis darparu a chynnal gwelliannau i ewinedd, triniaethau dwylo, iechyd a diogelwch a gofal cleientiaid. 

Drwy gydol y flwyddyn, byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol a chaiff eich sgiliau eu hasesu mewn amgylchedd gwaith realistig. 

O fewn y cymhwyster byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn o iechyd a diogelwch, gofal cleientiaid a chyfathrebu. 

  • Darparu Triniaethau Dwylo 
  • Darparu Triniaethau Traed 
  • Darparu a Chynnal Gwelliannau i Ewinedd 
  • Gofalu am Gleientiaid a Chyfathrebu â nhw mewn Diwydiannau Cysylltiedig â Harddwch 
  • Dilyn Arferion Iechyd a Diogelwch yn y Salon.
     

Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT

 

Gwybodaeth allweddol

  • Cymhwyster Lefel 2 mewn therapi harddwch NEU gyfweliad llwyddiannus 
  • Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1. 

Asesiadau ymarferol parhaus, arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig. 
Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol.  

Mae cyfleoedd gyrfa fel techegydd ewinedd iau yn cynnwys gweithio mewn salon ewinedd masnachol, bar ewinedd consesiwn adwerthu, neu fel gweithiwr annibynnol hunangyflogedig symudol neu mewn lleoliad cartref. 

Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs.   
Byddwn ni’n cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad. 

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.

Nail Technology Level 2 - Certificate
Cod y cwrs: K2C1128_P
14/09/2026
Tycoch
34 weeks
Monday
6:00 - 9:00pm
£400.00