Skip to main content

Bywyd Coleg yw'r ffordd ymlaen i Sophie

Yn ddiweddar fe wnaethom ddal i fyny gyda’r myfyriwr Astudiaethau Plentyndod, Sophie, sydd ddim ond ychydig fisoedd i ffwrdd o raddio o’r Coleg gyda gradd sylfaen.

Roedd gan Sophie uchelgais gydol oes o fod yn athrawes ysgol gynradd ond a hithau’n benderfynol nad oedd am fynd i’r brifysgol, gallai hyn fod wedi dod â’r freuddwyd honno i ben nes i Goleg Gŵyr Abertawe ymweld â’i Chweched Dosbarth.

“Roeddwn i’n benderfynol nad oeddwn i am fynd i’r brifysgol,” dywedodd Sophie. “Roeddwn i’n teimlo nad oedd yn iawn i mi. Dwi’n astudio ac yn gweithio’n well mewn grwpiau bach oherwydd dwi’n amau fy hun a’m gwaith yn aml. Yna,  roedd siaradwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ymweld â ni y diwrnod cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau UCAS. Wnaeth e sôn am y cwrs Gradd Sylfaen Astudiaethau Plentyndod gyda’r hwyr ac roeddwn i’n gwybod yn syth bin y byddai’n rhywbeth y byddwn i’n mwynhau ac y gallwn i fod yn dda arno.”

Roedd y ffaith y gallai cwrs Addysg Uwch gael ei ddarparu mewn amgylchedd coleg, gyda dosbarthiadau bach, a digonedd o gymorth yn ddelfrydol i Sophie.

“Roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn gyfle perffaith i mi gael gradd mewn amgylchedd mwy addas, a bod yn nes at adref hefyd,” dywedodd Sophie. “Maint y dosbarthiadau oedd yr hyn a apeliodd fwyaf ata i; dim ond saith sydd yn fy nosbarth. Roedd y syniad o gymorth un-i-un o’r darlithwyr ynghyd â’r ffaith y bydden nhw’n gallu dod i adnabod pob un ohonon ni ar lefel bersonol yn atyniad mawr.”

Yn ogystal â’r amgylchedd cefnogol, mae Sophie yn hoffi’r hyblygrwydd o astudio mewn coleg.

“Mae’r Coleg yn garedig ac yn hyblyg iawn gyda’ch astudiaethau ac yn ystyried bod swyddi amser llawn gan rai pobl,” ychwanegodd Sophie. “Roedd darparu’r cwrs gyda’r hwyr yn dda iawn i mi oherwydd gallwn i barhau i weithio dair neu bedair gwaith yr wythnos a dal i wneud oriau fy lleoliad ar y diwrnodau pan oedd darlithoedd gyda fi.”

Mae awyrgylch y Coleg wedi helpu Sophie i dyfu ar lefel bersonol ac academaidd.

“Fy hoff beth am astudio yn y Coleg yw’r holl ffrindiau newydd dwi wedi’u gwneud,” dywedodd Sophie. “Pe bawn i wedi astudio’r cwrs hwn mewn lleoliad prifysgol, dwi ddim yn credu y byddwn i wedi gwneud cynifer o ffrindiau oherwydd dwi’n berson swil iawn. Pe bawn i’n astudio mewn ystafell gyda channoedd o fyfyrwyr, byddwn i wedi teimlo’n bryderus iawn. Yn bendant, fyddwn i ddim wedi dysgu cymaint ag ydw i wedi’i wneud nawr.

Fy hoff brofiad yw dysgu sut i ysgrifennu’n academaidd. Feddyliais i ddim erioed y byddwn i’n gallu gwneud hynny, mae’r un peth yn wir am gyfeirnodi. Ar y dechrau, roeddwn i’n meddwl mai hwn oedd y peth gwaethaf yn y byd ac fe wnes i wirioneddol ymdrechu i’w ddysgu, ond nawr dwi’n gallu cyfeirnodi hyd yn oed heb fy llawlyfr.”

Ar ôl cwblhau ei chwrs, mae Sophie yn benderfynol o barhau â’i hastudiaethau ymhellach.

“Dwi’n bwriadu ychwanegu at fy ngradd sylfaen ac yn dilyn hynny hoffwn i ennill fy Niploma Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) er mwyn bod yn athrawes ysgol gynradd oherwydd mai dyna yw fy uchelgais gydol oes,” dywedodd Sophie. “Dwi wir yn edrych ymlaen at raddio; mae’n garreg filltir mor fawr i allu dweud eich bod chi wedi graddio o gwrs addysg uwch, yn enwedig o ystyried nad oedd fy rhieni wedi mynd i’r brifysgol.”

Mae profiad Sophie yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi ei hannog i argymell y cwrs a’r Coleg i bobl eraill.

“Dwi wedi cael profiad anhygoel yn y Coleg. Fe fyddwn i’n gwneud hyn i gyd eto, pe gallwn i,” ychwanegodd Sophie. “Mae’r staff mor gyfeillgar, a dydyn nhw ddim yn rhy lym. Gallwch chi chwerthin gyda nhw a dal i gael y gwaith wedi’i wneud. Mae staff y llyfrgell hefyd yn gymwynasgar iawn; maen nhw bob amser yn barod i ddarllen unrhyw waith a’i brawfddarllen cyn ei gyflwyno.

Mae’r coronafeirws wedi cael effaith ar fy mhrofiad yn y Coleg oherwydd mae’r rhan fwyaf o’r ail flwyddyn wedi bod yn ddysgu ar-lein o bell. Ond, mae’r Coleg wedi darparu darlithoedd ardderchog ac roedd yn dal i allu helpu cymaint ag y gallai, o ystyried yr amgylchiadau. Dwi’n credu bod y cwrs hwn yn berffaith i rywun sy’n teimlo efallai nad yw amgylchedd prifysgol yn addas iddyn nhw neu os ydyn nhw’n gweithio’n well mewn dosbarthiadau llai o faint.”

Os hoffech ddilyn yn ôl traed Sophie, gallwch wneud cais am y cwrs Gradd Sylfaen Astudiaethau Plentyndod (Cwrs gyda’r Hwyr) yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sydd am ennill cymhwyster ffurfiol sy’n cyfuno gweithgareddau seiliedig ar waith ac astudiaethau academaidd.

https://www.gcs.ac.uk/full-time-he-course/childhood-studies-foundation-degree-UWTSD