Skip to main content

Coleg Gŵyr Abertawe yw un o’r prif ddarparwyr Prentisiaethau yng Nghymru, ac rydym yn cynnig ystod eang o raglenni prentisiaethau arobryn yng Nghymru a Lloegr.  

Prentisiaethau yn Lloegr

Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni prentisiaeth unigryw yn Lloegr, ac er ein bod wedi ein lleoli yn Abertawe, mae gennym staff ymroddedig yn Lloegr sy’n darparu hyfforddiant prentisiaeth.

Rhagor o wybodaeth

Dod yn brentis

Mae prentisiaethau yn gyfle i chi ennill profiad ymarferol yn y byd go iawn wrth ddatblygu sgiliau sy’n benodol i’ch proffesiwn dewisol. Fel prentis, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.  

Gall pobl o bob oedran ymgymryd â phrentisiaethau, cyn belled â’u bod mewn cyflogaeth am o leiaf 16 awr yr wythnos. Os nad ydych yn gyflogedig ar hyn o bryd neu’n ystyried newid gyrfa, edrychwch ar ein prentisiaethau gwag isod.

Gallwch ddewis lefel prentisiaeth sy’n addas i chi trwy ddechrau ar lefel sylfaen, cyn cael cyfle i symud ymlaen i lefel uwch rheoli.

Dathlu ein prentisiaid

Mae ein Gwobrau Prentisiaethau blynyddol yn dathlu cyflawniadau ein prentisiaid, ein cyflogwyr a’u tiwtoriaid.

Rhagor o wybodaeth

Swyddi Prentisiaethau Gwag

Darganfod cyfleoedd prentisiaeth o gyflogwyr lleol isod.

Manteision prentisiaethau

Bydd darpar brentisiaid yn elwa mewn nifer o ffyrdd gwahanol drwy astudio prentisiaeth gyda’r Coleg, gan gynnwys:

  • Ennill profiad ymarferol yn y byd go iawn  
  • Ennill cyflog wrth ymgymryd ag astudiaethau a hyfforddiant
  • Cymorth gan diwtoriaid/aseswyr sydd â phrofiad helaeth o fewn y diwydiant
  • Ennill cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant
  • Mynediad i'n gwasanaethau llyfrgell, yn ogystal â Smart Assessor
  • Mynediad i Ganolfan Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe, yn ogystal ag aelodaeth am bris gostyngol
  • Prisiau gostyngol ar gyfer gwasanaethau a gynigir gan ein Canolfan Gwallt, Harddwch a Holistig (Broadway)
  • Cymhwysedd i wneud cais am gerdyn myfyriwr prentisiaid NUS  
  • Mynediad at adnoddau dysgu Moodle a Canvas  

Cwestiynau Cyffredin

Cyfle i ddysgwyr ennill hyfforddiant ymarferol yn y byd go iawn wrth sicrhau cymhwyster cydnabyddedig.  

Fel prentis, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. 

Dim o gwbl. Gall weithwyr proffesiynol profiadol ddefnyddio prentisiaethau i uwchsgilio a datblygu eu gyrfa. Rhaid i chi fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos yng Nghrymu. 

Bydd hyd pob prentisiaeth yn amrywio yn dibynnu ar lefel y cymhwyster. Ond fel arfer, bydd prentisiaeth yn cymryd 12-24 mis i’w gwblhau.

Byddant yn dechrau unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond, efallai bydd rhai cyrsiau yn dechrau ym mis Medi, yn unol â’r flwyddyn academaidd.