Skip to main content

Arbrofi â Thechnegau Tecstilau Cynaliadwy

Rhan-amser
Lefel 1
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Wrth archwilio’r cwrs tecstilau cynaliadwy hwn, byddwch yn defnyddio sgiliau gwnïo a syniadau a chysyniadau dylunio, gan eu hymgorffori i greu a dylunio briff prosiect tecstilau cynaliadwy.

Gan weithio gyda’ch cymheiriaid, a rhannu syniadau ac adborth, byddwch yn gweithio yn ôl briff wedi’i deilwra i greu a gwneud canlyniad dylunio tecstilau cynaliadwy.

Byddwch yn cofnodi’ch gwaith mewn llyfryn gorfodol a samplu dulliau tecstilau cynaliadwy, diwylliannol, hanesyddol a moesegol megis: lliwio naturiol, printio bloc, printio â sgrin sidan, uwchgylchu, trwsio Boro a rhagor!

Byddwch yn mynd â’r technegau a’r syniadau hyn ac adeiladu corff o ddarnau sampl sy’n cynrychioli’r datblygiad tuag at ddarn tecstilau cynaliadwy / wedi’i uwchgylchu / wedi’i ailgylchu terfynol cyffredinol. 

Ychwanegwyd Gorffennaf 2021

Gwybodaeth allweddol

Byddai cymhwyster Agored Lefel 1 – Defnyddio Tecstilau wedi’u Hailgylchu – yn ddymunol (byddai’n fuddiol i’r myfyriwr) ond nid yw’n ofynnol. Bydd angen rhai sgiliau peiriant gwnïo.

Addysgir y cwrs mewn ystafell ddosbarth llawn cyfarpar ag adnoddau a chyfleusterau ar y safle. Mae’n cynnwys llyfryn cwrs Agored y bydd rhaid i chi ei gwblhau yn ystod y cwrs er mwyn ennill y cymhwyster.

Cwrs Agored Lefel 2 - Prosiect Tecstilau: Dylunio Tecstilau Cynaliadwy ar gyfer y Tu Mewn, sy’n gwrs dilynol i’r cwrs hwn.