Archwilio Tecstilau Cynaliadwy

Rhan-amser
Lefel 1
AGORED
Llwyn y Bryn
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Ein nod yw archwilio a chasglu ffabrigau rydym wedi’u hymgorffori’n naturiol yn ein bywydau e.e. hen lenni neu hen ddenim, a rhoi mwy o fywyd iddyn nhw trwy eu hadfywio yn eitemau bob dydd newydd fel casys pensiliau, bagiau colur, bagiau ymolchi, gorchuddion clustog.

Rydym yn edrych ar ddulliau uwchgylchu cyflym a hawdd sy’n cynnwys ail-lunio hen ddarnau o ffabrig yn rhywbeth newydd gan ddefnyddio cynaliadwyedd fel craidd i’n moeseg ddylunio. Yn ogystal, byddwch yn archwilio ac yn datblygu’ch sgiliau peiriant gwnïo drwy’r amser.

Gan ddefnyddio adnoddau ardderchog yn ein cyfleusterau, byddwn yn cyfuno’r rhain â ffabrigau ail-law a hen ddefnyddiau eraill sydd gennym o amgylch ein cartrefi, gan eu defnyddio i greu pethau newydd a chyffrous.

Mae’r cwrs hwn yn gwrs gwych i ennill y sgiliau a ddymunir i symud ymlaen i lwybrau tecstilau eraill yn ein Coleg.

Ychwanegwyd Gorffennaf 2021

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Byddai rhai sgiliau gwnïo yn ddymunol.

Dull Addysgu’r Cwrs

Addysgir y cwrs mewn ystafell ddosbarth llawn cyfarpar gydag adnoddau a chyfleusterau ar y safle. Mae’n cynnwys llyfryn cwrs Agored y mae’n rhaid i chi ei gwblhau yn ystod y cwrs i ennill y cymhwyster.

Cyfleoedd Dilyniant

Cwrs prosiect rhan-amser Agored Lefel 1 Tecstilau, sy’n dilyn y cwrs hwn.