Skip to main content

Ffotograffiaeth Ffilm

Rhan-amser
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn gyfle i ddatblygu sgiliau ffotograffiaeth digidol gan ddefnyddio’r stiwdio a’r offer goleuo ar Gampws Llwyn y Bryn. Cewch eich annog i ystyried y pwnc yr hoffech chi dynnu llun ohono a’r delweddau dilynol yr hoffech chi eu creu. Wedyn byddwch chi’n golygu ac yn trin y delweddau hynny. Byddwch chi hefyd yn ystyried ffyrdd o rannu’r delweddau boed hynny drwy brintio neu’r cyfryngau digidol.

Addysgir y cwrs yn un o’r ddwy stiwdio ffotograffiaeth ar Gampws Llwyn y Bryn a chewch fynediad i ystafell Adobe Mac i olygu’ch delweddau.

Gwybodaeth allweddol

Does dim angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc.

Byddai’n fuddiol i ddysgwyr fynychu bob tymor i adeiladu sgiliau yn barod ar gyfer cyrsiau tymor 2 a thymor 3, er nid yw hyn yn rhwystr i fynychu bob tymor fel cwrs annibynnol.

Addysgir y cwrs yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn. Yn ystod y cwrs, bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau, a gaiff ei asesu ar gyfer ardystiad y cymhwyster.

Gallech chi symud ymlaen o unrhyw gwrs rhan-amser i gyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio.

Yn achos oedolion sy’n ddysgwyr sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio fod yn addas fel llwybr dilyniant.

Mae’r Coleg yn darparu’r holl ddeunyddiau.