Skip to main content

Gwneud Ffabrigau ar gyfer y Tu Mewn a Ffasiwn

Rhan-amser
Lefel 3
AGORED
Llwyn y Bryn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn ehangu eich sgiliau gwnïo ac yn eich annog i archwilio technegau newydd i gynhyrchu tecstilau i greu eitem dodrefn meddal neu ffasiwn.

Bydd dysgwyr yn cynhyrchu cyfres o samplau drwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau, gan addasu’r technegau i greu darnau unigryw i weddu i’w chwaeth bersonol nhw.

Addysgir y cwrs yn ein Canolfan Ffasiwn a Thecstilau sy’n gartref i fyrddau torri patrymau, peiriannau gwnïo diwydiannol a domestig ac amrywiaeth lawn o offer cynhyrchu dillad proffesiynol.

9/5/22

Gwybodaeth allweddol

Mae angen sgiliau gwnïo sylfaenol ar gyfer y cwrs Lefel 3 hwn er mwyn i ddysgwyr gwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus.

Bydd dysgwyr yn cofnodi tystiolaeth o’u cynnyrch mewn llyfryn i’w asesu. Mae’r cwrs yn rhedeg dros wythnos ac yn cael ei addysgu yn y stiwdio ffasiwn. Mae’r dosbarthiadau’n dechrau am 10am ac yn gorffen am 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau rhan-amser eraill yn nhymor yr hydref neu ystyried cyrsiau amser llawn ar Gampws Llwyn y Bryn h.y. Celf a Dylunio Lefel 3, Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.