Agor opsiynau ffurfweddu
Mae GCS Engage yn ap symudol a ddarperir gan Tribal Group Limited (y “Prosesydd Data”) ar ran Coleg Gŵyr Abertawe (y “Rheolydd Data”). Mae’r ap yn rhoi modd i fyfyrwyr a staff gyrchu gwybodaeth a gwasanaethau gan gynnwys:
- Mynediad Cyflym: Gweld dy amserlen, cofnodion presenoldeb, a newyddion y Coleg yn hawdd.
- Adrodd am Bresenoldeb ac Absenoldeb: Adrodd am absenoldeb yn hawdd neu wirio dy bresenoldeb gan ddefnyddio sgriniau gwell.
- Rhif Adnabod Digidol Dysgwyr: Cyrchu dy rif adnabod digidol ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau’r Coleg.
- Negeseua: Cysylltu â staff a dysgwyr eraill yn uniongyrchol trwy’r ap.
- Digwyddiadau a Newyddion: Cadw i fyny â digwyddiadau’r campws a chyhoeddiadau pwysig.
- Negeseuon Hyrwyddo: Cael negeseuon a’r newyddion diweddaraf am y Coleg yn gyflym.
Rydyn ni’n prosesu data personol trwy’r ap yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn. Gall y categorïau o ddata personol a brosesir trwy’r ap gynnwys gwybodaeth am gyfrif, manylion cyswllt, gwybodaeth am ddyfeisiau, gwybodaeth am ddefnydd, a gwybodaeth sy’n angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaethau sydd ar gael trwy’r ap.
Dim ond gyda phersonél awdurdodedig a darparwyr gwasanaeth cymeradwy y mae gwybodaeth yn cael ei rhannu pan fydd angen i weithredu’r gwasanaeth. Mae data yn cael ei gadw yn unol â’n hamserlen gadw. Mae gennyt hawliau ynglŷn â dy wybodaeth bersonol, gan gynnwys yr hawl i ofyn am fynediad, cywiro ac, mewn rhai achosion, dileu.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae dy ddata personol yn cael ei ddefnyddio, dy hawliau, a sut i gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data, cyfeiria at ein Polisi Preifatrwydd llawn yma.