Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal digwyddiad Dyfodol Creadigol cyffrous, gan ddod â thalentau at ei gilydd o’i dimau ffasiwn, celf a dylunio, teithio a thwristiaeth, gwallt a cholur, cerddoriaeth, a chynhyrchu theatr dechnegol.
Roedd y sioe ysblennydd hon yn brosiect cyffrous ar y cyd oedd yn cynnwys myfyrwyr a staff o gampysau Tycoch, Gorseinon a Llwyn y Bryn.
Nod y digwyddiad oedd rhoi ‘profiad gwaith byw’ i ddysgwyr gan adlewyrchu’r realiti o weithio yn y diwydiannau creadigol.
“Dyma sector sy’n hynod bwysig i’r DU, yn ddiwylliannol ac yn ariannol,” meddai Elinor Franklin, Rheolwr Maes Dysgu’r Coleg ar gyfer y Celfyddydau Gweledol. “Mae’r diwydiannau creadigol yn cyfrannu biliynau at yr economi ac yn tyfu o ran maint bob blwyddyn – maen nhw’n ffynnu a, gan fod y dysgwyr hyn wrthi yn meithrin eu talentau, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn!”
Cafodd y digwyddiad ei oruchwylio gan fyfyrwyr Teithio a Thwristiaeth y Coleg a ddyluniodd y deunyddiau hyrwyddo a’r bagiau o bethau da.
Llwyfannwyd y digwyddiad gan y tîm Cynhyrchu Theatr a Digwyddiadau Byw, a drefnodd yr holl gerddoriaeth, y goleuadau a’r llwyfan.
Fe wnaeth myfyrwyr Theatraidd, Effeithiau Arbennig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau baratoi’r modeli ar gyfer y brigdrawst ac arddangos eu creadigaethau ar gyfer y llwyfan a’r sgrin, ac fe wnaeth Samsara – band sy’n cynnwys dysgwyr Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth – berfformio sioe o ddeunydd gwreiddiol.
Arddangosodd myfyrwyr y Celfyddydau Gweledol eu talentau gydag amrywiaeth o ddillad ffasiwn yn amrywio o grysau protest a phrintiau leino, i ffrogiau sy’n dangos technegau torri tynnol, gwasgodau a siacedi cwiltiog.
Cofnodwyd y digwyddiad cyfan gan ddysgwyr Ffotograffiaeth a gynhyrchodd ddelweddau i’w hyrwyddo mewn print a thrwy blatfformau ar-lein.
Yn ddiweddar, mae llawer o’r myfyrwyr dan sylw wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a chawsant eu dathlu ar y diwrnod. Ymhlith y rhain roedd:
Solomon Bunn-Sovin: Dylunio Ffasiwn a Thechnoleg, enillydd medal Aur
Sophie Hockley: Sgiliau Crefft Seramig, enillydd medal Arian
Emily-Grace Kitchin: Tecstilau a Sgiliau Patrwm Arwyneb, Canmoliaeth Uchel
Harley Dark: Colur Creadigol, Canmoliaeth Uchel
Steve Sebastian: Dylunio Graffig, enillydd medal Aur