Safon Uwch Cerddoriaeth
Trosolwg
Bydd y cwrs hwn yn meithrin eich creadigrwydd ac yn dyfnhau eich dealltwriaeth o gerddoriaeth fel ffurf gelfyddydol a disgyblaeth ymarferol. Trwy gydbwyso perfformio, cyfansoddi a gwerthuso, byddwch yn datblygu eich sgiliau fel cerddor wrth archwilio ystod eang o arddulliau, genres a chyd-destunau hanesyddol. Byddwch yn astudio gweithiau gosod yn fanwl, yn dysgu sut mae cerddoriaeth yn cael ei chreu, ac yn cymhwyso’r technegau hyn yn eich cyfansoddiadau eich hun. Bydd cyfleoedd i berfformio ar eich pen eich hun ac mewn grwpiau. Bydd gwrando a thrafodaeth ddadansoddol yn eich helpu i fagu hyder, sgiliau cyfathrebu a mewnwelediad cerddorol, gan eich galluogi i ddatblygu eich meysydd diddordeb a’ch arbenigedd eich hun.
Amcanion:
- Datblygu dealltwriaeth drylwyr o theori, nodiant a therminoleg cerddoriaeth
- Gwella eich sgiliau ymarferol trwy berfformiadau unigol ac ensemble
- Dadansoddi a gwerthuso’n feirniadol ystod amrywiol o weithiau cerddorol
- Meithrin eich creadigrwydd a’ch technegau cyfansoddi
- Ennill gwybodaeth fanwl am hanes cerddoriaeth a’i gyd-destun diwylliannol.
Canlyniadau:
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn:
- Meddu ar repertoire eang o wybodaeth a sgiliau cerddorol
- Gallu mynegi eich syniadau a’ch emosiynau’n effeithiol trwy berfformio a chyfansoddi
- Dadansoddi a dehongli gweithiau cerddorol cymhleth gyda llygad beirniadol
- Deall arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol gwahanol genres cerddorol
- Barod ar gyfer astudiaethau pellach neu yrfa mewn cerddoriaeth.
Gwybodaeth allweddol
- Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith. Mae Mathemateg yn ddymunol hefyd
- Gradd B neu uwch mewn TGAU Cerddoriaeth neu Theori gradd 5 (ABRSM)
- Mae’r gallu i ddarllen nodiant cerddoriaeth a bod yn barod i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, perfformiadau grŵp ac ymarfer unigol yn hanfodol.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu trwy gyfuniad o sesiynau dosbarth, ymarferion ac ymarfer unigol. Mae dulliau asesu yn cynnwys arholiadau ysgrifenedig, perfformiadau ymarferol, a phortffolios cyfansoddi. Bydd meini prawf graddio yn gwerthuso eich dealltwriaeth o theori cerddoriaeth, eich hyfedredd technegol mewn perfformio, eich sgiliau cyfansoddi, a’ch gallu i ddadansoddi gweithiau cerddorol yn feirniadol.
Bydd eich meysydd astudio yn cynnwys Cerddoriaeth Gorawl Grefyddol (1730-1890) a Theatr Gerdd. Dyfarnwyd ‘Gwobr Athro y Flwyddyn Pearson’ yn 2021 i’r tiwtor cerdd presennol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn 2021 a fydd yn rhoi adborth ac arweiniad i chi yn rheolaidd ac yn cefnogi eich cynnydd a’ch datblygiad drwy gydol y cwrs.
Mae cwblhau Safon Uwch Cerddoriaeth yn llwyddiannus yn agor amrywiaeth o gyfleoedd dilyniant. Gallwch ddilyn addysg uwch mewn meysydd sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth fel cerddoleg, cyfansoddi, perfformio, neu gynhyrchu cerddoriaeth. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis parhau â’u hastudiaethau yn y brifysgol neu conservatoires i wella eu harbenigedd cerddorol ymhellach.
Mae Safon Uwch Cerddoriaeth hefyd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth, gan gynnwys perfformio, addysgu, newyddiaduraeth cerddoriaeth, therapi cerdd, a gweinyddu’r celfyddydau. Yn ogystal, mae’r sgiliau trosglwyddadwy a enillir yn ystod y cwrs hwn, megis gwaith tîm, cyfathrebu, a meddwl yn feirniadol, yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr mewn ystod eang o broffesiynau y tu allan i’r sector cerddoriaeth.
Mae ein cwrs Safon Uwch Cerddoriaeth yn cynnig cyfleoedd amrywiol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn grwpiau cerddoriaeth allgyrsiol, gan gynnwys côr, cerddorfa, a band jazz. Mae’r grwpiau hyn yn darparu amgylchedd cydweithredol a chyfoethog i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau cerddorol ymhellach, ennill profiad perfformio, a gwneud ffrindiau parhaol gyda chyd-selogion cerddoriaeth.