Skip to main content

Safon Uwch Dawns 

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Trwy ddosbarthiadau technegau a gweithdai byddwch yn archwilio amrywiaeth o arddulliau dawns, gan gynnwys cyfoes, bale, jazz a repertoire gan yr ymarferwyr/meysydd astudio a ddewiswyd. Gyda phwyslais ar goreograffi a pherfformio, byddwch yn gwella eich sgiliau artistig ac yn magu hyder wrth fynegi eich llais creadigol eich hun.

Yn sail i’ch dysgu ymarferol mae astudiaeth ddamcaniaethol yn darparu ffocws priodol i ymgysylltu’n feirniadol â dawns a deall y rhyngberthynas rhwng creu, cyflwyno a gwerthfawrogi dawns. Egni ac ymrwymiad yw’r prif ofynion ar gyfer y cwrs corfforol a meddyliol hwn.

Amcanion y cwrs:

  • Datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau ac arddulliau dawns
  • Meithrin creadigrwydd a sgiliau coreograffig
  • Gwella galluoedd perfformio a phresenoldeb llwyfan
  • Datblygu sgiliau dadansoddi beirniadol a gwerthuso mewn perthynas â dawns.

Canlyniadau’r cwrs:

  • Ennill gwybodaeth eang am hanes dawns a gwahanol arddulliau
  • Datblygu hyfedredd mewn coreograffi a pherfformio darnau dawns
  • Arddangos dealltwriaeth feirniadol o ddawns trwy asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol
  • Paratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfa mewn dawns, addysg uwch neu gyflogaeth.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg
  • Diddordeb byw mewn dawns ac ymrwymiad i ddysgu. Mae profiad o ddawns yn fuddiol, ond nid yw’n hanfodol
  • Rydym yn croesawu myfyrwyr o gefndiroedd dawns amrywiol.

Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o weithdai ymarferol, gwersi theori, a chyfleoedd perfformio.

Asesu:

YMARFEREOL

Perfformiad unawd cysylltiedig ag ymarferwr penodedig mewn maes astudio. Perfformiad mewn pedwarawd. Coreograffi grŵp. 

Sut mae’n cael ei asesu:

  • Arholiad ymarferol
  • 80 marc
  • 50% o Safon Uwch. 

THEORI

Gwybodaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad beirniadol o ddau waith gosod:

  • Un gwaith gosod gorfodol o fewn y maes astudio gorfodol
  • Un gwaith gosod dewisol o fewn y maes astudio cyfatebol – mae dewis o bedwar.

Sut mae’n cael ei asesu:

  • Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud
  • 100 marc
  • 50% o Safon Uwch.

Cwestiynau

Dwy adran:

  • Adran A: cwestiynau ateb byr (25 marc) ac un cwestiwn traethawd (25 marc) ar y gwaith gosod gorfodol/maes astudio
  • Adran B: dau gwestiwn traethawd ar yr ail waith gosod/maes astudio (25 marc am bob traethawd).

Ar ôl cwblhau’r cwrs Safon Uwch Dawns yn llwyddiannus, byddwch yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddilyn llwybrau amrywiol o fewn y diwydiant dawns. Mae llwybrau dilyniant posibl yn cynnwys:

  • Addysg Uwch: Gallech symud ymlaen i gyrsiau dawns lefel prifysgol, fel BA (Anrh) Dawns, Gwyddor Dawns, neu Addysg Dawns
  • Hyfforddiant Proffesiynol: Gallech ystyried hyfforddiant dawns galwedigaethol mewn sefydliadau dawns nodedig
  • Gyrfaoedd Perfformio: Gallech ddilyn gyrfa fel dawnsiwr, coreograffydd, athro/athrawes dawns, neu therapydd dawns
  • Gweinyddu’r Celfyddydau: Gallech archwilio cyfleoedd ym maes rheoli dawns, cynhyrchu, neu guradu. Bydd ein cynghorwyr gyrfaoedd ymroddedig yn rhoi arweiniad a chymorth, gan eich helpu i lunio eich dyfodol ym myd bywiog dawns.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.