Skip to main content

Safon Uwch Technoleg Cerdd

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Anelir y cwrs hwn at fyfyrwyr sydd â diddordeb angerddol am gerddoriaeth a chynhyrchu. Byddwch yn astudio technegau caledwedd a meddalwedd cynhyrchu trwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfleusterau stiwdio recordio a golygu. Cewch eich annog hefyd i archwilio’ch cerddgarwch a chreu deunyddiau gwreiddiol gan ddefnyddio technoleg.

Amcanion y cwrs:

  • Defnyddio offer cynhyrchu a’r stiwdios recordio i ddal, golygu a chymysgu amrywiaeth o recordiadau sain
  • Dysgu creu, golygu a thrin sain i gynhyrchu cyfansoddiadau bywiog a chyffrous
  • Deall y broses o greu cerddoriaeth a nodi’r technegau a ddefnyddir mewn recordiadau masnachol.

Canlyniadau’r cwrs:

Erbyn diwedd blwyddyn 2 byddwch wedi cynhyrchu portffolio o waith cwrs recordio a chyfansoddi ac yn gallu adnabod a deall y theori y tu ôl i dechnegau cynhyrchu masnachol.

Gwybodaeth allweddol

  • Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith. Mae Mathemateg yn ddymunol hefyd
  • Gallu chwarae offeryn neu ddangos profiad cynhyrchu perthnasol
  • Nid yw TGAU Cerddoriaeth yn hanfodol, ond mae gwybodaeth gyffredinol o gerddoriaeth yn fantais.

Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o ddarlithoedd dosbarth a phrofiad ymarferol. Yn ogystal, caiff myfyrwyr fynediad i’r stiwdios recordio a’r ystafell iMac y tu allan i’w darlithoedd i gwblhau aseiniadau a gwella eu profiad ymarferol.

Addysgu llinol: Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am ddarpariaeth linol yn eich cyfweliad. Mae darpariaeth linol yn golygu efallai na fydd gennych yr opsiwn o sefyll arholiad UG ar ddiwedd eich blwyddyn gyntaf.

Asesu:

Mae’r asesiad terfynol yn digwydd ar ddiwedd yr ail flwyddyn ar draws pedwar modiwl.

  • Recordio (20%): Gwaith cwrs
  • Cyfansoddi (20%): Gwaith cwrs
  • Gwrando a Dadansoddi (25%): Arholiad
  • Dadansoddi a Chynhyrchu (35%): Arholiad.

Ar ôl cwblhau Safon Uwch Technoleg Cerdd, mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i addysg uwch i astudio ystod eang o gyrsiau cerddoriaeth boblogaidd (BA) a pheirianneg sain (BSc), neu i’r diwydiant gan weithio mewn lleoliadau celfyddydol proffil uchel ledled y wlad.

Mae cyn-fyfyrwyr yn cynnwys cerddorion sesiwn proffesiynol a pheirianwyr stiwdio, perfformwyr llwyddiannus sydd wedi perfformio ar Lwyfan y Pyramid yn Glastonbury, peirianwyr sain byw, ysgrifenwyr a chyfansoddwyr, datblygwyr technoleg, a llawer mwy.

Explore in VR