Technegau Arbenigwr Harddwch Lefel 2 - Diploma
Trosolwg

Dechreuwch eich taith i’r diwydiant harddwch gyda’r cymhwyster ymarferol hwn. Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol wrth weithio ar gleientiaid go iawn mewn amgylchedd salon masnachol proffesiynol, gan fagu hyder a phrofiad i’r diwydiant.
Mae meysydd astudio yn cynnwys:
- Gofal croen wyneb
- Triniaethau dwylo
- Triniaethau traed
- Celf ewinedd
- Colur
- Triniaethau blew amrannau ac aeliau
- Technegau cwyro
- Gofal cleientiaid a chyfathrebu
- Iechyd a diogelwch a theori gysylltiedig.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf bedair gradd C neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith a Gwyddoniaeth yn ddelfrydol, neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru cyfatebol
- Bydd angen i ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf fod â chymhwyster ESOL Lefel 2
- Bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau asesiad llythrennedd cychwynnol a dod i gyfweliad
- Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr llawn cymhelliant sydd â diddordeb angerddol mewn harddwch ac sy’n awyddus i adeiladu sylfeini ymarferol a phroffesiynol cryf.
Byddwch yn dod i’r Coleg am 17 awr yr wythnos.
Asesiad ymarferol parhaus, arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig.
Diploma Lefel 3 mewn Triniaethau Therapi Harddwch neu Diploma Lefel 2 mewn Drin Gwallt.
Cyflogaeth yn y diwydiant fel therapydd iau mewn salon proffesiynol neu hunangyflogaeth.
Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs. Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad (mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael).
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) therapi harddwch ac mae’n cael ei gydnabod gan gymdeithas broffesiynol flaenllaw’r DU, Cymdeithas Therapi Harddwch a Chosmetoleg Prydain (BABTAC) fel un sy’n addas i’r diben i’ch paratoi ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch. Mae deiliaid y cymhwyster hwn yn gymwys i ddod yn aelod proffesiynol o BABTAC.