Trin Gwallt Lefel 2 - Diploma
Trosolwg
Yn ystod y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn datblygu sgiliau trin gwallt ac yn gweithio ar gleientiaid a’ch modelau eich hun mewn amgylchedd salon masnachol.
Mae meysydd astudio yn cynnwys:
- Iechyd a diogelwch
- Gweithio yn y diwydiant gwallt
- Ymgynghori â chleientiaid
- Siampwio a chyflyru gwallt
- Chwythsychu / setio / plethu a throelli gwallt
- Lliwio a goleuo gwallt
- Torri gwallt merched
- Torri gwallt dynion
- Hyrwyddo gwasanaethau a chynhyrchion.
Os bydd angen, bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gwblhau cymwysterau TGAU pellach mewn Mathemateg a Saesneg Iaith.
Bydd asesiadau yn barhaus drwy gydol y flwyddyn academaidd gan gynnwys Arsylwadau Ymarferol wrth weithio ar gleientiaid a modelau yn y salon. Bydd profion ar-lein a gwaith aseiniad hefyd yn cael eu defnyddio i asesu gwybodaeth theori ar gyfer pob uned.
Gwybodaeth allweddol
- Yn ddelfrydol, gradd C mewn TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg neu gymhwyster Lefel 2 cyfathrebu a chymhwyso rhif Sgiliau Hanfodol Cymru. Tystysgrif Lefel 1 mewn Trin Gwallt
- Bydd angen i ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf fod â chymhwyster ESOL Lefel 2
- Cyfweliad a diddordeb brwd mewn trin gwallt.
Byddwch yn dod i’r Coleg am 17 awr yr wythnos. Byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yn y salonau masnachol gan ddatblygu sgiliau ymarferol a gweithio ar gleientiaid neu’ch modelau eich hun. Yn ogystal, bydd gwersi yn yr ystafell ddosbarth a thair awr ychwanegol os bydd angen ailsefyll TGAU Mathemateg neu Saesneg Iaith.
Bydd dysgwyr yn cael cyfle i symud ymlaen i’r cwrs Diploma Lefel 3 Trin Gwallt amser llawn, neu efallai y bydd rhai dysgwyr am ddilyn prentisiaeth Trin Gwallt Lefel 2/3 mewn salon.
Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs. Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad. Mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael.