Dechrau Arni mewn Teilsio
Rhan-amser
Llys Jiwbilî
10 wythnos
Ffôn:
01792 284400 (Llys Jiwbilî)
E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cwrs rhagarweiniol 10 wythnos hon ar gyfer y rhai sydd am ddysgu hanfodion teilsio, fel sut i deilsio wal. P’un a ydych yn ddechreuwr, yn hoffi DIY neu’n ystyried gyrfa mewn adeiladu, byddwch yn ennill y sgiliau hanfodol a’r hyder i gwblhau prosiectau teilsio sylfaenol yn ddiogel ac yn broffesiynol.
Byddwch chi’n dysgu’r canlynol:
- Deall y gwahanol fathau o deils a sut maen nhw’n cael eu defnyddio
- Paratoi arwynebau ar gyfer teilsio
- Mesur, marcio, a chynllunio gosodiadau
- Torri teils gan ddefnyddio offer llaw ac offer pŵer
- Defnyddio gludydd a gosod teils yn gywir
- Technegau growtio a gorffennu
- Gwaith atgyweirio a chynnal a chadw sylfaenol
- Arferion iechyd a diogelwch ar y safle.
Gwybodaeth allweddol
Dim gofynion mynediad.
Addysgir y cwrs yn ein gweithdy yn Llys Jiwbilî. Mae’n gwrs ymarferol.
Gallwch gofrestru ar gyrsiau eraill yn ein cyfres Dechrau Arni; plastro, gwaith coed, gwaith brics neu blymwaith.
Bydd angen i chi wisgo esgidiau diogelwch a dillad priodol ar gyfer y gweithdy.