Gofaint Arian - Canolradd
Trosolwg
Drwy gydol y flwyddyn byddwn ni’n rhedeg tri chwrs annibynnol dros 10 wythnos, mewn Gofaint Arian.

Cwrs 1
Bydd myfyrwyr yn dylunio ac yn gwneud bangl, cyffen neu freichled arian ac yn archwilio gweithio gyda defnyddiau eraill ac arian, er enghraifft clai arian, ailgylchu, metelau cymysg sy’n cyfuno copr, arian, efydd, ac aur.

Cwrs 2
Bydd myfyrwyr yn dysgu amrywiaeth o dechnegau gweadu a ffurfio gan gynnwys rhwydennu, cromennu, ffurfio plygiadau, defnyddio’r felin rolio ar gyfer gweadu arian a defnyddio morthwylion a bonion; a byddan nhw’n dylunio a gwneud darn o emwaith arian gan ddefnyddio unrhyw un o’r technegau hyn.

Cwrs 3
Bydd myfyrwyr yn dylunio ac yn cynhyrchu darn o emwaith wedi’i ysbrydoli gan of arian o’ch dewis, wrth ddysgu rhagor o dechnegau gosod cerrig fel gosod tiwbiau a gosod basgedi syml. Bydd hyn yn annog myfyrwyr i ddatblygu eu harddull unigol eu hunain o wneud gemwaith, wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer dilyniant i’r cyrsiau uwch mewn gofaint arian.
Gwybodaeth allweddol
Mae rhywfaint o brofiad blaenorol yn angenrheidiol, fel ein cwrs ‘Gofaint Arian - Dechreuwyr’.
Bydd dysgwyr yn gwneud darn o emwaith i ddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth a’u cymhwysedd wrth ymarfer.
Mae dilyniant drwy gydol y flwyddyn, ond gall pob cwrs Gofaint Arian fod yn annibynnol o’r lleill – byddwch chi’n dysgu sgiliau sylfaenol ar bob cwrs yn ôl yr angen.
Addysgir y cwrs trwy sesiynau wyneb yn wyneb mewn stiwdio gofaint arian llawn cyfarpar – darperir yr holl offer.
Gellir defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu:
- Arsylwi ymarfer yn uniongyrchol
- Cwestiynau llafar / trafodaeth broffesiynol
- Gwerthuso eu darn terfynol
- Arsylwir iechyd a diogelwch drwyddi draw.
Rydyn ni’n cynnig ‘Gofaint Arian – Gweithdy Arbenigol’ sydd yn gam nesaf naturiol i unrhyw un sy’n cwblhau’r cwrs canolradd hwn.
Gall dysgwyr symud ymlaen i hunangyflogaeth hefyd (neu gyflogaeth), neu i gyrsiau eraill ym maes gemwaith.
Ffi stiwdio £10.
Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu eu harian eu hunain, sydd ar gael yn www.cooksongold.com. Bydd cost y defnyddiau yn dibynnu ar y dyluniadau unigol a’r cerrig o’ch dewis. Bydd o leiaf un prosiect i’w gwblhau ar bob cwrs.