Gofaint Arian - Dechreuwyr
Trosolwg
Drwy gydol y flwyddyn byddwn ni’n rhedeg tri chwrs annibynnol dros 10 wythnos, i ddechreuwyr mewn Gofaint Arian.

Cwrs 1
Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion gofaint arian gan gynnwys defnyddio llif rwyllo, gweadu, ffeilio, llathru, ariansodro, gwneud caten a gwneud tlws crog arian.

Cwrs 2
Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i wneud modrwyau plaen ac addurniedig i’r maint cywir.

Cwrs 3
Byddwch yn dysgu sut i osod cerrig cabosión lled werthfawr mewn darn o emwaith arian o’ch dewis, gallai hwn fod yn dlws crog, yn glustdlysau neu fodrwy arall.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes angen profiad blaenorol.
Bydd dysgwyr yn gwneud darn o emwaith i ddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth a’u cymhwysedd wrth ymarfer.
Mae dilyniant drwy gydol y flwyddyn, ond gall pob cwrs Gofaint Arian fod yn annibynnol o’r lleill – byddwch chi’n dysgu sgiliau sylfaenol ar bob cwrs yn ôl yr angen.
Addysgir y cwrs trwy sesiynau wyneb yn wyneb mewn stiwdio gofaint arian llawn cyfarpar – darperir yr holl offer.
Gellir defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu:
- Arsylwi ymarfer yn uniongyrchol
- Cwestiynau llafar / trafodaeth broffesiynol
- Gwerthuso eu darn terfynol
- Arsylwir iechyd a diogelwch drwyddi draw.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech chi symud ymlaen i’w cwrs ‘Gofaint Arian – Canolradd’ ac yna i ‘Gofaint Arian – Gweithdy Arbenigol’.
Gall dysgwyr symud ymlaen i hunangyflogaeth hefyd (neu gyflogaeth), neu i gyrsiau eraill ym maes gemwaith.
Ffi stiwdio £10.
Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu eu harian eu hunain, sydd ar gael yn www.cooksongold.com. Bydd cost y defnyddiau yn dibynnu ar y dyluniadau unigol a’r cerrig o’ch dewis. Bydd o leiaf un prosiect i’w gwblhau ar bob cwrs.