Skip to main content

Serameg

Rhan-amser
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Serameg yw’r grefft o siapio clai yn wrthrychau fel powlenni, mygiau a cherfluniau. Gan ddefnyddio technegau fel adeiladu â llaw, addurno, a thanio odyn, byddwch yn troi clai meddal yn ddarnau gorffenedig sy’n gallu gwrthsefyll prawf amser. 

Mae’r cwrs hwn yn rhoi pwyslais cryf ar brosesau traddodiadol, gan gynnig sylfaen mewn arferion serameg sydd wedi cael eu defnyddio am ganrifoedd.

Yn ddelfrydol i ddechreuwyr ac artistiaid seramig profiadol. Mae’n wych i’r rhai sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau seramig ymarferol, archwilio mynegiant creadigol trwy glai, neu adeiladu ar brofiad seramig blaenorol mewn amgylchedd ymarferol, cefnogol.

Byddwch yn archwilio technegau adeiladu craidd megis adeiladu â llaw, castin slip, a thaflu ar olwyn y crochenydd. Ochr yn ochr â’r dulliau hyn, byddwch yn arbrofi ag addurno arwyneb a gwydro – o orffeniadau clasurol i arddulliau mwy arbrofol, cyfoes. Bydd technegau tanio hefyd yn cael eu cyflwyno fel y gallwch danio’ch darnau seramig a mynd â nhw adref gyda chi.

Yr hyn byddwch chi’n ei ddysgu:

  • Dulliau adeiladu â llaw allweddol, gan gynnwys torchi, pinsio, ac adeiladu slab
  • Cyflwyniad i gastin slip a gweithio gyda mowldiau plastr
  • Hanfodion taflu ar olwyn ar gyfer ffurfio llestri cymesur
  • Technegau gwydro ac addurno traddodiadol a modern
  • Prosesau tanio ac hanfodion gweithredu odyn.

Gwybodaeth allweddol

Does dim angen profiad blaenorol, ond byddai diddordeb mewn serameg yn fuddiol.

Addysgir y cwrs hwn am dair awr yr wythnos ar Gampws Llwyn y Bryn, Uplands. Yn ystod y cwrs, bydd dysgwyr yn creu amrywiaeth o darnau prawf seramig a chanlyniadau. Rhaid i ddysgwyr cwblhau llyfryn fydd yn cynnwys ffotograffau o’r canlyniadau seramig. Asesir hyn er mwyn i chi ennill tystysgrif ar gyfer y cymhwyster. Byddwch chi’n gweithio yn ein stiwdio serameg sy’n llawn cyfarpar i gefnogi’ch profiad dysgu.

Gallai dilyniant o unrhyw gwrs rhan-amser gynnig llwybr i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. I ddysgwyr sy’n oedolion sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ddarparu llwybr dilyniant ar gyfer hyn.

Mae ffi stiwdio o £10 yn daladwy ar gyfer pob tymor o 10 wythnos i dalu am ddeunyddiau a thanio. Gellir casglu’r holl waith ar ôl cwblhau llyfryn.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.

Introduction to Ceramics
Cod y cwrs: ZA042_P04
16/09/2026
Llwyn y Bryn
1 day
Wednesday
1:30 - 3:30pm
TBA
Ceramics (Sept Start) Mon 13:30pm - LGF
Cod y cwrs: VA042_P02
23/09/2026
Llwyn y Bryn
10 weeks
Monday
1:30 - 4:30pm
TBA
Ceramics (Sept Start) Wed 13:30pm - LGF
Cod y cwrs: VA042_P01
23/09/2026
Llwyn y Bryn
10 weeks
Wednesday
1:30 - 4:30pm
TBA
Ceramics (Jan Start) Mon 13:30pm - LGF
Cod y cwrs: VA042_P04
04/01/2027
Llwyn y Bryn
10 weeks
Monday
1:30 - 4:30pm
TBA
Ceramics (Jan Start) Wed 13:30pm - LGF
Cod y cwrs: VA042_P03
06/01/2027
Llwyn y Bryn
10 weeks
Wednesday
1:30 - 4:30pm
TBA
Ceramics (Apr Start) Mon 13:30pm
Cod y cwrs: VB042_P02
05/04/2027
Llwyn y Bryn
10 weeks
Monday
1:30 - 4:30pm
£70.00
Ceramics (Apr Start) Wed 13:30pm
Cod y cwrs: VB042_P01
07/04/2027
Llwyn y Bryn
10 weeks
Wednesday
1:30 - 4:30pm
£70.00