This course is available in Welsh

Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Gwasanaethau Adeiladu - Plymwaith a Thrydanol

Amser llawn
Lefel 1
C&G
Tycoch
Un flwyddyn
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi modd i ddysgwyr ennill, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa mewn plymwaith, gwaith trydanol neu wasanaethau adeiladu. 

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn ddelfrydol i’r rhai sy’n chwilio am gyflwyniad i’r diwydiant plymwaith a thrydanol ac sydd am ddilyn cwrs a fydd yn llwybr i astudiaethau pellach yn y maes hwn.  

Bydd yn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau a gwybodaeth ymarferol craidd, ynghyd â chyfle i symud ymlaen i’n cwrs Sylfaen Lefel 2 mewn Gwasanaethau Adeiladu.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

  • Caiff ymgeiswyr eu hystyried ar sail cyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, gydag awydd ac ymrwymiad i gwblhau’r cwrs yr hoffent ei astudio.  
  • Yn ddelfrydol byddai dysgwyr 16+ oed yn meddu ar raddau TGAU da mewn Mathemateg, Saesneg Iaith a Gwyddoniaeth. 

Dull Addysgu’r Cwrs

Bydd dysgwyr yn cwblhau naw asesiad theori ar bapur yn amrywio o iechyd a diogelwch i gynnwys sy’n gysylltiedig â’r grefft benodol. Bydd dysgwyr hefyd yn gweithio trwy bortffolios a llyfrynnau hyfforddi ac yn dangos ystod o sgiliau ymarferol yn y gweithdai plymwaith a gwaith trydanol.  

Cymysgedd o asesiadau ymarferol ac arholiadau ar bapur.  

Strwythur asesu   

I gyflawni’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau: 

  • Naw arholiad diwedd modiwl  
  • Rhaglen hyfforddi ym mhob maes, yn ogystal â 19 asesiad ymarferol 

Cyfleoedd Dilyniant

Ar ôl cwblhau’r cwrs Diploma Lefel 1 mewn Gwasanaethau Adeiladu, gallech astudio’r cwrs Sylfaen Lefel 2 mewn Gwasanaethau Adeiladu, neu anelu at ennill prentisiaeth ac ymuno â’r cwrs EAL Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Plymwaith a Gwresogi yn rhan-amser:

Gwaith Brics a Phlastro Lefel 2 – Cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

Gwaith Coed, Peintio ac Addurno Lefel 2 - Cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

Prentisiaeth Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Plymwaith a Gwresogi) Lefel 3

Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Gosodiadau Electrodechnegol Lefel 3 (Prentisiaeth)

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallai dysgwyr gael cyfle i symud ymlaen i’r cwrs Sylfaen Lefel 2 o fewn yr wyth wythnos gyntaf os byddant yn dangos sgiliau ymarferol ardderchog, presenoldeb da a gallu uwch yn eu gwaith theori yn barhaus.   

 

Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!