Celf a Dylunio (Diploma Estynedig L3)
Trosolwg
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer dyfodol yn y diwydiannau creadigol gan gynnig amrywiaeth o ddisgyblaethau ymarferol ym maes celf a dylunio gan gynnwys ffasiwn, ffotograffiaeth, dylunio graffig, celfyddyd gain a chrefftau 3D.
Cewch eich herio gydag amrywiaeth o friffiau cyffrous a fydd yn eich annog i archwilio’ch creadigrwydd a magu hyder i gyfleu syniadau.
Diweddarwyd Ionawr 2021
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
Pum gradd A-C ar lefel TGAU gan gynnwys Celf a Dylunio. Bydd cymwysterau cyfwerth yn cael eu derbyn, gan gynnwys gradd Teilyngdod mewn Celf a Dylunio Lefel 2. Yn amodol ar gyfweliad a phortffolio o waith.
Dull Addysgu’r Cwrs
Bydd tîm o staff arbenigol yn addysgu unedau fel aseiniadau â thema drwy gydol y flwyddyn. Bydd arddangosiadau ymarferol, trafodaethau, gwaith grŵp, gwaith unigol, cyflwyniadau ac arddangosfeydd.
Asesir y gwaith yn erbyn ystod o feini prawf sy’n ystyried amrywiaeth yr ymchwil, datblygu syniadau, archwilio cyfryngau a thechnegau, dadansoddi a gwerthuso canlyniadau, canlyniad terfynol ar ffurfiau 2D a 3D.
Asesiadau parhaus gan y tîm drwy gydol y flwyddyn, yn ystod ac ar ôl pob aseiniad, gydag adborth llafar ac ysgrifenedig.
Bydd myfyrwyr yn treulio tua deunaw awr yr wythnos ar y cwrs.
Cyfleoedd Dilyniant
Gall myfyrwyr symud ymlaen i nifer o gyrsiau addysg uwch megis gradd, diploma sylfaen neu HND.
Mae myfyrwyr llwyddiannus wedi mynd ymlaen i ganlyn amryw gyrsiau gradd ledled y DU, a hefyd i ennill nifer o gystadlaethau celf a dylunio nodedig.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd gwibdeithiau amrywiol i orielau, amgueddfeydd a digwyddiadau drwy gydol y cwrs. Pan fo’n bosibl, bydd y Coleg yn cymorthdalu cost y gwibdeithiau hyn ond bydd angen i fyfyrwyr wneud cyfraniad hefyd.
Offer: Mae ffioedd stiwdio (£75 y flwyddyn) yn talu am y canlynol – pecyn celf rhagarweiniol bach a ddarperir ar ddechrau’r cwrs, pecyn arbenigol pan fydd myfyrwyr yn dewis eu llwybr, cynnal offer arbenigol ac mae’n cyfrannau at adnoddau celf a dylunio hanfodol. Mae disgwyl i fyfyrwyr brynu eu llyfrau braslunio eu hunain ac unrhyw offer ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer eu hastudiaethau.
Costau argraffu: Bydd modd i fyfyrwyr brynu credydau argraffu ar gyfer cyfrifiaduron personol a chyfrifiaduron MAC os bydd eu hangen yn ystod y flwyddyn.