Skip to main content

Chwaraeon Lefel 3 - Diploma Estynedig Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Extended Diploma
Tycoch, Gorseinon
Dwy flynedd
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch), 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Ar y cwrs dwy flynedd hwn byddwch yn canolbwyntio ar astudio’r corff dynol mewn chwaraeon, sgiliau hyfforddi ac addysgu ffitrwydd. Mae pwyslais hefyd ar wella a datblygu chwaraeon o fewn cymdeithas.

Bydd angen amrywiaeth eang o ddiddordebau chwaraeon arnoch a byddwch yn mwynhau cymryd rhan ym mhob gweithgaredd. Gan fod llawer o unedau astudio yn gysylltiedig ag arweinyddiaeth a hyfforddi, dylech hefyd fod yn hyderus i weithio gyda chyfoedion a phlant ifanc mewn ysgolion.

Yr unedau sy’n cael eu hastudio ar y cwrs yw:

  • Egwyddorion anatomeg a ffisioleg mewn chwaraeon
  • Ffisioleg ffitrwydd
  • Asesu risg mewn chwaraeon
  • Hyfforddiant a rhaglenni ffitrwydd
  • Hyfforddi chwaraeon
  • Datblygu chwaraeon
  • Profi ffitrwydd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff
  • Chwaraeon tîm ymarferol
  • Chwaraeon unigol ymarferol
  • Maeth chwaraeon
  • Materion cyfoes mewn chwaraeon
  • Arweinyddiaeth mewn chwaraeon
  • Ymarfer corff, iechyd a ffordd o fyw
  • Cyfarwyddo gweithgaredd corfforol ac ymarfer corff
  • Seicoleg ar gyfer perfformiad chwaraeon
  • Anafiadau chwaraeon
  • Tylino chwaraeon ac ymarfer corff
  • Rheolau, rheoliadau a gweinyddu mewn chwaraeon
  • Trefnu digwyddiadau chwaraeon.

Gwybodaeth allweddol

Pum gradd C neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys gradd C o leiaf mewn TGAU Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Gwasanaethau Cyhoeddus (proffil Teilyngdod).

Cewch eich asesu mewn sawl ffordd gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, taflenni, ffeithlenni, hyfforddiant ymarferol, adroddiadau bach a thrafodaethau proffesiynol.

Gellir addysgu elfennau o’r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Os dewiswch aros yn y Coleg, gallwch symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Datblygu a Rheoli Chwaraeon

Mae cyrsiau cyffredin yn y brifysgol yn cynnwys chwaraeon ac addysg gorfforol, astudiaethau rheoli hamdden, hyfforddi chwaraeon, datblygu chwaraeon ac addysgu addysg gorfforol.

Archwiliwch rai o’r gyrfaoedd y gallech eu dilyn ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, a’u cyflog cysylltiedig.

Mae rhagor o gyfleoedd i’w gweld ar wefan Gyrfaoedd mewn Chwaraeon.

Bydd myfyrwyr yn dilyn cymwysterau ychwanegol sy’n alwedigaethol berthnasol megis Cymorth Cyntaf, Arweinwyr Chwaraeon y DU, unedau Chwaraeon AGORED a dyfarniadau NGB (ac efallai y bydd ffi fach ychwanegol yn berthnasol ar gyfer y rhain).

Bydd rhaid i fyfyrwyr ar y cwrs hwn dalu am wiriad DBS sy’n costio £40.

Rhaid i fyfyrwyr brynu crys-T, crys polo a hwdi ar gyfer y cwrs sy’n costio £70. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i brynu tracwisg coleg a chit cysylltiedig â chwaraeon trwy’r timau chwaraeon a ddewiswyd.

Mae’n bosibl y bydd costau bach ychwanegol ar gyfer ymweliadau addysgol lleol.