BA (Anrh) Rheolaeth Busnes (Cyfrifeg/Marchnata) Ychwanegol

HE
Lefel 6
UoSW
Plas Sgeti
One year
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Hyd: Un flwyddyn

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi ennill HND, Gradd Sylfaen neu gymhwyster cyfwerth. Bydd y cwrs atodol hwn yn rhoi modd i fyfyrwyr gael gradd bagloriaeth lawn. 

Mae dau lwybr i ddewis o’u plith ar y cwrs BA (Anrh) Rheoli Busnes (Ychwanegol). Gallwch ddewis arbenigo mewn Cyfrifeg neu Farchnata. Mae’r llwybr Cyfrifeg yn ffordd wych o gynyddu’ch cyflogadwyedd gyda gwybodaeth cyfrifeg arbenigol yn sylfaen i sgiliau busnes hanfodol. Mae’r llwybr Marchnata yn cynnig cipolwg ar ddatblygiadau ym maes marchnata a bydd yn rhoi cyfle i chi archwilio'n feirniadol ymarfer marchnata a’i berthnasedd mewn busnes cyfoes.

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu trwy seminarau rhyngweithiol gyda chymorth adnoddau ar-lein. Bydd astudiaethau achos bywyd go iawn, diweddar yn cael eu defnyddio i’ch helpu chi i ddysgu a sicrhau bod eich astudiaethau mor berthnasol â phosibl i’r gweithle.

Diweddarwyd Rhagfyr 2022

Click Here to Complete Our Higher Education Enquiry Form

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Cwblhau HND neu gymhwyster cyfwerth yn llwyddiannus h.y. Gradd Sylfaen.

 

Dull Addysgu’r Cwrs

Asesir y cwrs trwy aseiniad, cyflwyniad, astudiaeth achos, arholiad a phrosiectau ymchwil.

Modiwlau craidd Lefel 6 (llwybrau cyfrifeg a marchnata):

  • Rheolaeth gymhwysol
  • Ymchwil busnes: egwyddorion ac ymarfer
  • Prosiect rheolaeth
  • Statageth busnes

Modiwlau Lefel 6 (llwybr cyfrifeg):

  • Egwyddorion cyllid corfforaethol
  • Egwyddorion cyfrifeg

Modiwlau Lefel 6 (llwybr marchnata):

  • Rhagoriaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid
  • Strategaeth marchnata omnisianel

Cyfleoedd Dilyniant

Astudiaeth ôl-raddedig megis MBA ym Mhrifysgol De Cymru.

Gwybodaeth Ychwanegol

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS

Cod UCAS: N79A - Rheolaeth Busnes (Cyfrifeg). I wneud cais cliciwch yma

Cod UCAS: N79M - Rheolaeth Busnes (Marchnata). I wneud cais cliciwch yma

DS – Nid oes angen i fyfyrwyr CGA sy’n astudio cwrs HND Rheoli Busnes wneud cais drwy UCAS. Bydd ceisiadau’n cael eu gwneud drwy ffurflen gais fewnol ar-lein.

Achrediad Dysgu Blaenorol

Mae'n bosibl y bydd myfyrwyr yn gallu cael cydnabyddiaeth am ddysgu blaenorol.  Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch fod hyn yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma 

Y ffioedd dysgu yw £9,000*   |  Mae bwrsari Coleg gwerth £1,000 ar gael.
I gael gwybodaeth gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd dysgu, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

*Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn h.y.:

  • teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad, ac yn ôl
  • llungopïo, deunydd swyddfa a chostau offer (e.e. cofau bach)
  • argraffu a rhwymo
  • gynau ar gyfer seremonïau graddio