Skip to main content

Ail wobr i fyfyrwyr Gwyddoniaeth dawnus

Mae grŵp dawnus o fyfyrwyr Gwyddoniaeth wedi cipio’r ail wobr am eu gwaith ar brosiect arloesol EESW (STEM Cymru).

Yn 2014, roedd Jamie Dougherty (fel arweinydd tîm), Anna Bevan, Jiaman Cheang, Alana Borthwick, Ruth Harvey, Joshua Cox a David Small wedi gweithio gyda Morlyn Llanw Bae Abertawe ar brosiect o’r enw: “cael hyd i ddulliau ychwanegol o gynhyrchu ynni cynaliadwy, adnewyddadwy ar gyfer y Morlyn Llanw.”

Gan weithio gyda pheirianwyr, tîm marchnata’r Morlyn Llanw a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, fe wnaethon nhw ddatblygu prototeip o dreuliwr anaerobig i gynaeafu macroalgae (gwymon) y gellid ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni i fwydo yn ôl i’r morlyn.

O ganlyniad i’r prosiect maen nhw wedi ennill Gwobr Effeithlonrwydd Ynni (Gwobr y Grid Cenedlaethol ar gyfer y Gwerthfawrogiad Gorau o Ynni) yn rownd derfynol Cymru gyfan EESW yn y Celtic Manor.

Erbyn hyn maen nhw wedi ennill gwobr arall - Gwobr Ansawdd ac Arloesi Cymru (Gwobr Addysg) - a gafodd ei chyflwyno iddynt gan Lucy Owen mewn seremoni ddiweddar yng Ngwesty’r Vale.

“Roedd llawer o ysgolion a cholegau o bob rhan o Gymru wedi cymryd rhan yn y fenter felly mae’r llwyddiant hwn yn dyst i ddawn a gwaith caled y myfyrwyr hyn,” dywedodd y darlithydd Denise Thomas, a oedd hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd ar y prosiect hwn. “Ymysg yr enillwyr eraill ar y noson roedd busnesau llwyddiannus o Gymru fel Sony, Chwisgi Penderyn a phartneriaeth Cydwasanaethau GIG, felly roedd y myfyrwyr mewn cwmni da iawn.”