Skip to main content
All Wrapped Up!

All Wrapped Up!

Mae myfyrwyr Lefel 3 Patisserie yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi bod yn brysur iawn yn cynllunio, eisio ac addurno'r darn arddangos Nadoligaidd blynyddol.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r myfyrwyr - dan arweiniad y Rheolwr Maes Dysgu a'r darlithydd patisserie Mark Clement - wedi cynhyrchu amrywiaeth o gacennau â thema gan gynnwys coeden Nadolig siocled saith troedfedd, dynion eira yn 'chilio mâs', a chyffeithiau cymhleth o'r enw Deck the Halls, Frozen a Starry Night.

Enw'r darn arddangos eleni yw All Wrapped Up oherwydd ei fod yn debyg iawn i gasgliad o anrhegion Nadolig. Aeth y myfyrwyr ati'n llawn brwdfrydedd i daclo'r her o greu cacen chwe haen a gymerodd tair gwers - a'r swm anhygoel o 20kg o eisen - i'w chwblhau.

“Fe ddysgon nhw sgiliau patisserie ac addurno cacennau newydd ond mae'r prosiect hefyd wedi arwain yn naturiol at gynnwys sgiliau cyflogadwyedd, rhifedd, cyfathrebu, gweithio gydag eraill a datrys problemau yn y broses,” meddai Mark.

Gwyliwch y gacen yn cael ei gwneud

https://www.gcs.ac.uk/cy/catering-and-hospitality