Skip to main content

Annog busnesau i wella sgiliau digidol staff trwy hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn annog busnesau yn Ne-orllewin Cymru i gofrestru eu staff ar hyfforddiant digidol wedi’i ariannu’n llawn i sicrhau bod ganddynt y sgiliau i fanteisio ar y technolegau a’r offer diweddaraf.

Gan fod 40% o’r boblogaeth sy’n gweithio yn y DU yn brin o sgiliau digidol, mae’r Coleg yn cymell busnesau i gofrestru eu staff ar gymwysterau dysgu seiliedig ar waith wedi’u hariannu’n llawn i helpu i bontio’r bylchau sgiliau yn y maes hwn.

Adroddir yn eang bod pandemig COVID-19 wedi cyflymu ac ysbrydoli cynlluniau trawsnewid digidol hirdymor, ond mae’r bwlch sgiliau digidol sy’n ehangu yn bygwth dal busnesau yn ôl.
Mae 80% o arweinwyr busnes y DU yn credu y bydd angen buddsoddi mewn sgiliau digidol er mwyn adfer wedi pandemig y coronafeirws.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cymell busnesau yn yr ardal i fuddsoddi yn sgiliau digidol eu staff fel y gallant sicrhau bod ganddynt fantais gystadleuol yn y dirwedd ddigidol sy’n datblygu.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar bod y Coleg wedi cyrraedd rownd derfynol genedlaethol yn y categori Darparwr y Flwyddyn Prentisiaethau Digidol yng Ngwobrau Prentisiaeth AAC, ac mae ei bortffolio o gymwysterau yn cynnwys Cymorth Cymwysiadau Digidol, Dylunio Dysgu Digidol, y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol, Dadansoddeg Data a Gweithwyr Proffesiynol Diogelwch Gwybodaeth. Gellir defnyddio’r cyrsiau i uwchsgilio staff presennol neu gyflwyno talent newydd.  Mae cymhellion ariannol hyd at £4,000 ar gael hefyd os ydych yn recriwtio trwy brentisiaethau.

Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr pwrpasol a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwr a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn fwyaf addas ar gyfer eu rôl, eu huchelgeisiau a’u blaenoriaethau sefydliadol.

Dywedodd Paul Kift, Cyfarwyddwr Coleg Gŵyr Abertawe: “Mae cwmnïau nad ydynt yn buddsoddi yn sgiliau digidol eu staff mewn perygl o golli perthnasedd a’u mantais gystadleuol wrth i ni ddod allan o’r pandemig.

Pan darodd COVID-19 y llynedd, i’r mwyafrif o fusnesau roedd prosiectau trawsnewid digidol yn cael eu hystyried i ddechrau fel ffordd o sicrhau parhad busnes mewn cyfnod o argyfwng.

Ond, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ffyrdd o weithio’n ddigidol wedi dod yn arferol. Er mwyn aros ar y blaen ac ymddangos mewn sefyllfa gref, rhaid i fusnesau barhau i gofleidio offer a thechnolegau newydd. Yn bennaf oll, mae hyn yn golygu buddsoddi yn sgiliau digidol eu staff.

Bydd dychwelyd i hen arferion yn gadael busnesau ar ei hôl hi ac felly er mwyn goroesi mewn dyfodol cystadleuol, digidol-gyntaf, rydyn ni’n annog busnesau yn Ne Cymru i fanteisio ar ein cymwysterau digidol wedi’u hariannu’n llawn.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau dysgu seiliedig ar waith sy’n cynnwys pynciau megis Sgiliau Digidol, Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Tai a Gwasanaeth Cwsmeriaid. 
I gael rhagor o wybodaeth ewch i gcs.ac.uk/cy/digital