Skip to main content
Anrhydedd Coleg Noddfa i Goleg Gŵyr Abertawe

Anrhydedd Coleg Noddfa i Goleg Gŵyr Abertawe

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gydnabod yn swyddogol fel Coleg Noddfa, y Coleg AB cyntaf yng Nghymru i dderbyn clod o’r fath.

Rhoddwyd yr anrhydedd hon i’r Coleg gan City of Sanctuary UK, sefydliad sy’n ymrwymedig i adeiladu diwylliant o ddiogelwch, cyfle a chroeso, yn enwedig i’r rhai sy’n ceisio noddfa rhag rhyfel ac erledigaeth.

Yn ystod y broses asesu, canmolwyd y Coleg am ei ymrwymiad i ddarparu lle diogel, croesawgar a hygyrch i’r holl ddysgwyr. Cafodd y pwyntiau canlynol eu canmol gan y panel:

  • Tiwtoriaid cefnogol ac anogol y Coleg sy’n barod i dderbyn ac yn gyflym i ymateb i unrhyw faterion, ac sydd yn aml yn cynnal cysylltiadau â myfyrwyr ar ôl iddynt gwblhau eu cwrs
  • Tîm arweinyddiaeth sy’n pwyso am newid cadarnhaol
  • Ethos o rannu arferion da yn weithredol nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, ac ysbrydoli eraill i ddilyn yn ôl eu traed
  • Rôl allweddol y Coleg wrth gynorthwyo dysgwyr i barhau â’u hastudiaethau yn ystod pandemig Covid
  • Gweithdrefn sefydlu sy’n cynnwys cynhwysiant, amrywiaeth, gwerthoedd ac ymddygiad
  • Datblygu system Cynrychiolwyr Dosbarth a Grŵp Rheoli Undeb y Myfyrwyr – mae’r grŵp olaf wedi sefydlu cyfnewidfa iaith ystwythder geiriol a grŵp ffydd Islamaidd
  • Meithrin cysylltiadau agos ag asiantaethau allanol fel Dinas Noddfa Abertawe, EYST ac Ysgolion Noddfa a chydag unigolion yn y gymuned
  • Cymryd rhan mewn ymgyrchoedd elusennol fel ‘Walk a Mile in My Shoes’ sy’n tynnu sylw at y pellteroedd y mae’r rhai sy’n ceisio noddfa yn eu cerdded
  • Gweithio i gael gwared ar rwystrau i ddysgu h.y. iaith neu gyllid

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel Coleg Noddfa,” dywedodd y Swyddog Amrywiaeth a Chyfoethogi, Paul Vincent. “Mae hyn yn tynnu sylw at yr holl waith gwych sy’n cael ei wneud trwy’r sefydliad ac, yn benodol, gan ein tîm ESOL yn Llwyn y Bryn a’r tîm Dyfodol / Reach ar ein campws yng nghanol y ddinas, y mae’r ddau ohonyn nhw’n delio’n uniongyrchol â ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac yn darparu gwasanaeth rhagorol i’w dysgwyr, yn aml yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol yn eu hymdrechion i helpu a darparu arweiniad.”

“Rydyn ni wrth ein bodd i ddyfarnu Coleg Gŵyr Abertawe fel y Coleg Noddfa cyntaf yng Nghymru,” ychwanegodd Siân Summers-Rees, Prif Swyddog Dinas Noddfa’r DU. “Mae eu hymrwymiad hirsefydlog i leihau rhwystrau i bobl sydd â phrofiad byw o geisio noddfa, a darparu cyfleoedd i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch a chyflogaeth yn creu argraff arnon ni. Roedd eu hymateb cefnogol i fyfyrwyr yr oedd y pandemig wedi effeithio arnyn nhw yn ganmoladwy ac rydyn ni wedi gallu rhannu eu gwaith gyda cholegau ledled y DU i oleuo’r rhwydwaith cynyddol o golegau sy’n ymrwymedig i’n gweledigaeth ar gyfer DU groesawgar.”

“Mae darparu lle diogel a chysurlon i’n myfyrwyr yn un o’n prif flaenoriaethau, yn enwedig nawr ar ôl 18 mis anodd iawn,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Ac nawr, ar adeg pan rydyn ni’n clywed straeon mor ofidus o bob cwr o’r byd, mae’n newyddion hynod wych cael ein cydnabod fel Coleg Noddfa AB cyntaf Cymru.

“Mae colegau AB yn sefydliadau canolog yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ac mae’r wobr yn cydnabod ein bwriad i groesawu pawb fel aelod cyfartal, gwerthfawr o gymuned y Coleg - lle diogelwch a chynhwysiant i bawb. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud â’r broses asesu a hoffwn i estyn llongyfarchiadau hefyd. Am ffordd wych o ddechrau blwyddyn academaidd newydd!”