Archwilio cyfleoedd dysgu o bell newydd


Diweddarwyd 05/06/2020

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi llofnodi cytundeb partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru a fydd yn gweld amrywiaeth ehangach o gyfleoedd dysgu o bell a hyblyg yn cael eu cynnig i ddysgwyr lefel uwch ar draws rhanbarth Bae Abertawe.

Bydd y bartneriaeth yn ymdrin â phedair prif elfen - datblygu prentisiaethau gradd newydd a rhaglenni lefel prifysgol, treialu llwybr dilyniant AU ar gyfer myfyrwyr mynediad a gradd sylfaen, ac uwchsgilio gweithwyr.

Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe Ganolfan Brifysgol bwrpasol ar Gampws Tycoch ac nawr bydd yn ceisio ehangu ei ystod o gyrsiau addysg uwch, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys graddau sylfaen ac israddedig, trwy ddefnyddio adnoddau ar-lein y Brifysgol Agored.

Yn y cyfamser byddai gan staff y Coleg yr opsiwn i ddefnyddio platfform OpenLearn y Brifysgol Agored i gynorthwyo eu datblygiad proffesiynol. Mae OpenLearn yn cynnwys platfform o gyrsiau am ddim y byddai’r Brifysgol Agored yn gallu eu haddasu i fodloni unrhyw fylchau sgiliau a nodwyd.

“Rydyn ni’n llawn cyffro ynghylch y posibiliadau y bydd y cydweithrediad hwn yn eu cynnig i’n myfyrwyr a’n staff,” dywedodd Dirprwy Bennaeth y Coleg, Nick Brazil.

“Oherwydd y digwyddiadau byd-eang presennol, mae’n bwysig iawn ein bod ni’n datblygu ein darpariaeth o gyfleoedd dysgu o bell ac mae cysylltu â’r Brifysgol Agored yng Nghymru fel hyn yn gam positif iawn ymlaen.”

"Am dros 50 mlynedd, mae’r Brifysgol Agored wedi bod yn dod â dysgu i gartrefi pobl ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, rydyn ni wedi dod yn brifysgol leol i bawb,” ychwanegodd Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru.

“Rydyn ni yma i agor dysgu i fwy a mwy o bobl sydd efallai yn chwilio am ffyrdd mwy hyblyg o ddatblygu eu sgiliau - dyna pam mae ein perthynas â cholegau a’u staff a’u myfyrwyr mor bwysig. Bydd y bartneriaeth newydd hon yn rhoi cyfle i ni weithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe mewn ardal yng Nghymru sy’n llawn potensial ac i helpu pobl i ennill cymhwyster prifysgol a gwireddu eu huchelgeisiau mewn ffordd sy’n iawn iddyn nhw”.

Tags:
HE