Arolwg ESTYN cadarnhaol i Goleg Gŵyr Abertawe


Diweddarwyd 24/05/2018

Derbyniodd Coleg Gŵyr Abertawe arolwg cadarnhaol iawn gan Estyn yn ddiweddar sy’n canmol y Coleg am y gefnogaeth a roddir ganddo i’w dysgwyr, ei bartneriaethau cryf â diwydiant ac ysgolion, ei ganlyniadau arholiad ardderchog a dilyniant llwyddiannus myfyrwyr i’r prifysgolion gorau.

Ym mis Ionawr 2018, ymwelodd tîm o 17 Arolygwr Ei Mawrhydi ac arolygwyr  cymheiriaid â’r Coleg, gan dreulio pythefnos yn gweithio ar draws pob un o’r saith prif gampws.

Yn ystod yr wythnos gyntaf, canolbwyntiwyd ar chwe maes dysgu penodol, sef Safon Uwch, Iechyd a Gofal, y Celfyddydau Gweledol a Pherfformio, Peirianneg, Busnes a Sgiliau (ar draws y Coleg).

Yn ystod yr ail wythnos, aseswyd safonau, darpariaeth (h.y. dysgu ac addysgu), arweinyddiaeth y Coleg, ei berfformiad cyffredinol a phosibiliadau ar gyfer gwelliant.

“Rwyf wrth fy modd gyda chanlyniadau’r arolwg,” medd y Pennaeth Mark Jones. “Roedd 23 o’n 27 o ddyfarniadau unigol yn “dda” ac roedd dau ohonynt, ym maes Gofal, Cefnogaeth ac Arweiniad a Gweithio mewn Partneriaeth, yn “rhagorol”.

“Yr hyn a ddangosir gan yr arolwg hwn yw bod Coleg Gŵyr Abertawe’n parhau i gyflwyno lefel o addysgu a chyfleoedd hyfforddiant gyson ac o safon i bob un o’n dysgwyr. Mae canlyniad yr arolwg hwn wedi rhoi seiliau cadarn iawn i ni ar gyfer ein datblygiad yn y dyfodol ac, yn hollbwysig, mae’n cydnabod ymrwymiad ein holl staff ar draws pob rhan o’r Coleg.”

Mae rhai o uchafbwyntiau adroddiad Estyn yn cynnwys y sylwadau canlynol:

Mae’r Coleg yn gweithio’n dda i ddiwallu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr ac mae ganddo amrywiaeth priodol o ddarpariaeth. Mae darpariaeth Safon Uwch yn eang iawn, ac mae’n cynnwys pynciau nad ydynt ar gael yn eang ledled Cymru

Mae’r Coleg yn darparu cefnogaeth hynod effeithiol sy’n ymateb i’w ddysgwyr. Mae staff cefnogi ac athrawon yn hyrwyddo lles dysgwyr yn dda iawn.

Mae dysgwyr yn cael eu paratoi’n arbennig o dda ar gyfer cyflwyno ceisiadau am leoedd mewn prifysgolion lle mae mynediad yn gystadleuol iawn.

Mae gan y Coleg bartneriaethau cryf iawn gydag amrywiaeth o gyflogwyr lleol a rhanbarthol, yr awdurdod lleol, colegau eraill a phrifysgolion. Mae’r rhain yn dod â buddion i ddysgwyr drwy gynnig cyfleoedd i roi eu sgiliau ar waith, i gymryd rhan mewn addysg ddefnyddiol sy’n berthnasol i’r gwaith a chael mynediad i addysg bellach ac uwch.

Mae myfyrwyr o dramor yn ymgyfuno â bywyd y Coleg yn dda ac maent yn derbyn cefnogaeth ddefnyddiol, er enghraifft drwy dderbyn cefnogaeth gyda’u Saesneg a’r Coleg yn cynyddu ymwybyddiaeth o’u diwylliannau a’u cefndiroedd.

Mae gan y Coleg drefniadau cryf ar gyfer cynnwys dysgwyr mewn mentrau adborth a gwella ansawdd.  Mewn nifer o achosion, mae gan y rhain effaith gadarnhaol ar ansawdd y ddarpariaeth, yn enwedig mewn meysydd megis gwella adnoddau dysgu ac, mewn ychydig o achosion, wella arferion addysgu ac asesu.

Nodwedd ragorol o’r Coleg yw ei allu i weithio mewn partneriaeth a’r ffordd y mae’n gweithio gydag ysgolion ar draws Sir Abertawe i gynyddu ehanger a safon y dewisiadau galwedigaethol sydd ar gael i ddisgyblion 14 i 16 oed.

Mae gan uwch reolwyr ymagwedd hyblyg ac entrepreneuraidd at ddatblygu adeiladau mewn ymateb i gyfleoedd economaidd ac anghenion busnes newidiol.

Mae dysgwyr yn elwa o amrywiaeth eang o weithgareddau cyfoethogi a chysylltiadau â phartneriaid allanol. Mae’r rhain yn darparu cyfleoedd o safon iddynt sy’n gwella eu sgiliau ac yn ehangu eu gorwelion.

O ran Safon Uwch, mae dysgwyr yn cwblhau eu cymwysterau’n llwyddiannus ar gyfraddau sy’n uwch na’r cymharydd cenedlaethol. Ar draws y rhan fwyaf o gyrsiau Safon Uwch ac Uwch Gyfannol, mae dysgwyr yn cael graddau uchel ac, ar rai cyrsiau, mae dysgwyr yn cael graddau uchel iawn o’u cymharu â’u cyrhaeddiad cyn hynny. Mae’r maes dysgu’n darparu cefnogaeth tiwtora bugeiliol ac academaidd i ddysgwyr sy’n hynod o gryf. Mae hyn yn cynnwys mynediad i raglen eang o diwtorialau arbenigol wedi’u teilwra i gefnogi dilyniant i addysg uwch, cyflogaeth neu hyfforddiant, e.e. tiwtorial meddygol y Coleg a’r rhaglen ‘Academi’r Dyfodol’.

Tags: