Bariton 'Syniadau Mawr' yn ymweld â myfyrwyr Harddwch


Diweddarwyd 14/06/2016

Roedd y Model Rôl Syniadau Mawr a’r bariton amldalentog o Gymru Mark Llewellyn Evans wedi cynnal diwrnod o weithdai yn ddiweddar yng Nghanolfan Broadway.

“Roedd hyn yn gyfle gwych i’r therapyddion harddwch newydd gael cipolwg ar y gyrfaoedd y gallen nhw eu dilyn yn y diwydiant ffilmiau a cherddoriaeth,” dywedodd Swyddog Menter y coleg Lucy Turtle, a drefnodd y digwyddiad. 

Astudiodd Mark yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall a’r Stiwdio Opera Genedlaethol. Mae wedi gweithio gydag enwau mawr ym myd adloniant gan gynnwys Katherine Jenkins, Alfie Boe, David Blaine, Rob Brydon a’r Fonesig Kiri Te Kanawa. Mae ei yrfa wedi mynd ag ef i bedwar ban byd, gan berfformio mewn lleoliadau o’r radd flaenaf fel tai opera cenedlaethol a Stadiwm y Mileniwm, ac mae hefyd wedi ymddangos mewn ffilmiau.

Yn ogystal â’i berfformio, roedd Mark hefyd wedi hyfforddi fel animeiddiwr a thiwtor anghenion arbennig, gan ddarparu rhaglenni addysgol ar gyfer plant o bob oedran a gallu i gwmnïau fel Opera Cenedlaethol Cymru, Opera Cenedlaethol Lloegr ac Opera North.

Tags: