Skip to main content
Brodyr actio yn dychwelyd i roi cynghorion clyweld

Brodyr actio yn dychwelyd i roi cynghorion clyweld

Mae dau gyn-fyfyriwr y Celfyddydau Perfformio wedi dychwelyd i Goleg Gŵyr Abertawe i rannu geiriau doeth.

Roedd y brodyr Amukelani (Kel) ac Anthony Matsena wedi ymweld â Champws Gorseinon i gwrdd â myfyrwyr presennol a thrafod eu profiadau o glyweld a chystadlu ar gyfer lleoedd mewn colegau drama arbenigol.

Mae Kel newydd ddechrau ei flwyddyn derfynol yn Ysgol Theatr Bristol Old Vic ac mae Anthony, sydd wedi graddio’n ddiweddar o Ysgol Dawns Gyfoes Llundain, yn Gydymaith Ifanc yn Theatr Sadler’s Wells.

“Roedd Kel ac Anthony wedi rhoi cynghorion ac argymhellion defnyddiol iawn i’n cohort presennol o fyfyrwyr, sydd ar fin dechrau’r broses glyweld gystadleuol iawn mewn colegau ledled y DU,” dywedodd y darlithydd Wyn Richards. “Mae’r ddau wedi symud ymlaen i golegau arbenigol ardderchog ers gadael Coleg Gŵyr Abertawe ac felly roedd yn wych i’n myfyrwyr presennol glywed eu straeon a chael mewnwelediad i’r hyn y gallan nhw ei ddisgwyl dros y misoedd nesaf.”