Skip to main content
Canolfan ffasiwn a thecstilau newydd i’r Coleg

Canolfan ffasiwn a thecstilau newydd i’r Coleg

Bydd Canolfan Ffasiwn a Thecstilau newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn rhoi cyfle i fyfyrwyr hogi eu sgiliau ar offer o safon diwydiant a fydd yn eu paratoi yn dda wrth wneud cais am swyddi yn y proffesiwn.

Diolch i hwb ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru, bydd y cyfleuster newydd ar gampws Llwyn y Bryn (yn Uplands) yn cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau cysylltiedig â chelf a dylunio.

"Rydyn ni’n llawn cyffro am y posibiliadau creadigol sydd wedi agor i'n myfyrwyr trwy osod yr offer newydd hyn yn Llwyn y Bryn," dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm, Elinor Franklin. "Mae modd iddyn nhw ddefnyddio torrwr laser, argraffydd tecstilau Mimaki, peiriannau gwnïo a brodwaith diwydiannol, meddalwedd torri patrymau ac offer graddio Gerber. Yn ogystal, mae gyda ni beiriannau hemiau cudd, meddalwedd dylunio Lectra, ystafell MAC, argraffydd cerameg a gwasg gwres, byrddau torri patrymau mawr a banc o mannequins diwydiant."

O fis Medi, bydd y Coleg yn cynnig Gradd Sylfaen newydd sbon mewn Dylunio Ffasiwn a Thecstilau.
"Dyma pryd bydd y cyfleuster newydd o gymorth go iawn i ni" ychwanegodd Elinor. "Mae'r cwrs hwn yn ymwneud â datblygu'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddilyn gyrfa yn y diwydiannau ffasiwn a thecstilau ac mae sgiliau dylunio a chynhyrchu wrth wraidd pob prosiect. Nawr, rydyn ni’n gallu cynnig y gorau o’r dechnoleg ddiweddaraf ar gampws Llwyn y Bryn."

Mae lansiad prentisiaeth Lefel 2 Ffasiwn a Thecstilau hefyd ar y gorwel. Bydd hon yn cael ei darparu mewn partneriaeth â Red Dragon Flagmakers, a bydd y myfyrwyr yn treulio un diwrnod y penwythnos yn y Ganolfan Ffasiwn a Thecstilau.

DIWEDD