Skip to main content

Coleg yn cael ei enwebu am wobr tennis

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei roi ar y rhestr fer am wobr gan Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA) Cymru.

Mae adran Chwaraeon y coleg yn un o dri sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Addysg yng Ngwobrau Tennis Cymru 2015, a fydd yn cael eu cynnal yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 20 Chwefror. Mae hyn yn cydnabod yr amrywiaeth eang o weithgareddau tennis y mae’r coleg yn eu trefnu drwy gydol y flwyddyn fel rhan o’r cwricwlwm ehangach.

Yn ogystal â chynnal tair gŵyl tennis flynyddol ar bob campws, mae Coleg Gŵyr Abertawe hefyd yn annog pob myfyriwr i fwynhau sesiynau ‘tennis amseru’ gan ddefnyddio cyrtiau llai, racedi byrrach a pheli sbwng sy’n addas ar gyfer pob lefel, ac mae’n trefnu sesiynau tennis arbennig ar gyfer myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol.

“Fel partner addysg bellach sefydledig yr LTA, ein nod yw annog pob myfyriwr i gymryd rhan mewn tennis, beth bynnag yw lefel eu gallu,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Marc O’Kelly. “Mae hyn yn helpu i’w cadw yn heini ac yn actif ac mae hefyd yn gyflwyniad gwych i rywbeth y gallan nhw fynd ymlaen i’w ddilyn fel camp neu hobi. Mae’r LTA yn rhoi llawer iawn o help i ni tuag at gyflawni’r nod hwn drwy gynnig cymorth ar ffurf hyfforddiant, arian ac offer.”