Skip to main content
Coleg yn cael ei ystyried am wobr Ddi-bapur

Coleg yn cael ei ystyried am wobr Ddi-bapur

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Di-bapur y Sector Cyhoeddus 2019…

Mae’r tîm Technoleg Gwybodaeth a Dysgu, sy’n cefnogi’r defnydd o dechnolegau ac arloesi digidol ar draws y Coleg, wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Cymhwysiad / Prosiect Digidol Gorau ar Raddfa Fach am ddatblygu e-lofnodion ar gyfer cytundebau tocynnau bws a chyllid myfyrwyr.

“Diben y prosiect oedd creu ateb pwrpasol mewnol ar gyfer integreiddio llofnodion electronig ym mhrosesau a gweithdrefnau’r Coleg,” dywedodd yr Arweinydd Tîm TGD Kate Pearce.

“Gyda chymorth ariannu gan JISC, sy’n darparu atebion digidol ar gyfer addysg ac ymchwil y DU, roedden ni’n gallu canoli ein hymdrechion ar y ffurflenni y mae’n rhaid i’n myfyrwyr eu llenwi i hawlio Lwfans Cynhaliaeth Addysg a thaliadau Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Nod cyffredinol y fenter oedd defnyddio elfennau electronig yn lle elfennau papur y broses.” 

Mae datblygiad y system electronig hon wedi gwella effeithiolrwydd gweithdrefnau tocynnau bws a chyllid y Coleg ac wedi gwella profiad myfyrwyr o’r broses gofrestru. Bu arbedion mesuradwy ac amlwg o ran amser staff ac adnoddau ffisegol.

“Yn y pedair blynedd ers gweithredu’r prosiect hwn, rydym wedi arbed tua 44,000 dalen o bapur, 40,000 polypocket, 2000 o oriau staff – oherwydd doedd dim rhaid i ni brosesu a ffeilio dogfennau - a £4000 mewn costau storio,” ychwanegodd Kate. “Mae’r fantais amgylcheddol amlwg o beidio argraffu llwythi o bapur hefyd wedi helpu’r Coleg i ennill Safon Amgylchedd y Ddraig Werdd.

“Rydyn ni wrth ein bodd i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y digwyddiad gwobrwyo ym mis Gorffennaf.”