Skip to main content

Coleg yn cyrraedd rhestr fer ar gyfer tair gwobr AB TES

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori yn nigwyddiad mawreddog Gwobrau AB TES 2021.

Mae Gwobrau AB TES yn dathlu ymroddiad ac arbenigedd pobl a thimau sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i wella lefelau sgiliau pobl ifanc ac oedolion sy’n ddysgwyr.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol:

Rhaglen Brentisiaeth y Flwyddyn
Mewn ymateb i gais gan gyflogwr rhyngwladol mawr, datblygodd y Coleg Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gwyddorau Labordy a Diwydiant. I ddatblygu’r llwybr ymhellach, cafodd Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Diwydiannau Gwyddor Bywyd ei chyflwyno hefyd.

Mae’r Coleg hefyd wedi cydgysylltu â Phrifysgol Abertawe i ganiatáu dilyniant pellach i Flwyddyn 2 ei rhaglen radd cemeg i israddedigion – y llwybr cemeg cyntaf o’i fath yn y DU. O ganlyniad i hyn, mae cyflogwyr mawr eraill hefyd wedi elwa ar y rhaglen unigryw hon.

Mae pandemig Covid-19 wedi golygu y bu rhaid i’r Coleg arloesi y tu hwnt i’r maes llafur, gan ddatblygu meddalwedd ar gyfer prentisiaid i ddatrys cyfrifiadau labordy. Fel unig Goleg Cyswllt Cymdeithas Frenhinol Cymru, mae ein prentisiaid yn gallu cydweithredu’n rhithwir â’r Gymdeithas Frenhinol, y Gymdeithas Ystadegau Frenhinol a’r Sefydliad Dur a Metelau (SaMi), i ddadansoddi data crai.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn arbennig o falch o lwyddiant ei brentisiaid benywaidd ac mae wedi datblygu rhaglen Llysgenhadon Prentisiaid Benywaidd STEM, lle mae prentisiaid yn ymweld â disgyblion ysgol lleol i chwalu’r syniad bod y sector y tu hwnt i’w cyrraedd. Mae’r gwaith hwn yn cyflawni canlyniadau sylweddol.

O blith ein prentisiaid uwch benywaidd, cafodd un ddysgwraig ei choroni yn Brentis Cenedlaethol y Flwyddyn Cymru a chafodd un arall ei henwi yn Brentis Uwch y Flwyddyn Tata Steel y DU.

Cymorth i Ddysgwyr
Wrth ymateb i bryderon ynghylch cyfraddau cwblhau dysgwyr awtistig, mabwysiadodd Coleg Gŵyr Abertawe ddull strategol newydd a arweiniodd at sefydlu Grŵp Strategaeth ASD unigryw. Roedd hwn yn darparu’r profiad dysgu gorau i holl Ddysgwyr ASD ôl-16, ac yn rhoi pontio wrth wraidd popeth a wnawn.

Roedd y grŵp yn cynnwys rhanddeiliaid o Brifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyngor Abertawe, ynghyd â chynrychiolwyr o ysgolion/unedau arbennig, Arweinydd ASD Abertawe, rhieni a gofalwyr, tîm Cymorth Dysgu y Coleg, cynrychiolydd myfyriwr Coleg ASD a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd. 

Erbyn hyn mae gan y Coleg raglen bontio sy’n arwain y sector i’r holl ddysgwyr ag ASD ac Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae hefyd wedi datblygu cyrsiau penodol fel rhan o’r broses bontio estynedig i ddysgwyr ASD, PACE (Cyn-fynediad i Addysg Coleg) a Dilyniant PACE. Mae gan y cyrsiau hyn fynediad i ystafelloedd trafod synhwyraidd, gwell proses atgyfeirio gyda’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, a staff ymroddedig sydd wedi’u hyfforddi ac â phrofiad o weithio gyda dysgwyr awtistig.

Ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, roedd y Coleg hefyd wedi treulio dwy flynedd ar brosiect ymchwil blaengar, gyda’r nod o ddeall yr heriau y mae myfyrwyr ag awtistiaeth yn eu profi wrth bontio trwy gerrig milltir addysgol.

Cafodd Cymorth i Fyfyrwyr ei ddyfarnu yn ‘Ardderchog’ yn ein harolwg Estyn yn 2018, mae ein niferoedd cadw wedi gwella’n sylweddol, a Choleg Gŵyr Abertawe yw’r Coleg AB cyntaf yng Nghymru nawr i gael yr Achrediad nodedig gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth.

Arwr WorldSkills
Yn ogystal â bod yn fam brysur ac yn ofalwr teuluol, mae Nicola Grant-Rees yn ysbrydoli ein dysgwyr amser llawn yn ei rôl fel Hyfforddwr Sgiliau Bwyty ym mwyty hyfforddi’r Vanilla Pod.

Gyda 35 mlynedd o brofiad diwydiannol yn y gwasanaeth bwyd a chynadledda, mae Nicola wedi treulio’r 12 mlynedd diwethaf yn hogi sgiliau bwyty ein dysgwyr ac mae’r ymroddiad hwn yn sicr wedi talu ar ei ganfed! Ni all unrhyw goleg arall yng Nghymru honni ei fod wedi sicrhau o leiaf un lle cystadleuydd yn rowndiau terfynol sioe sgiliau’r DU am chwe blynedd yn olynol.

Roedd 10 myfyriwr wedi cynrychioli Tîm Cymru yn rowndiau terfynol y gystadleuaeth Gwasanaethau Bwyty yn UK Skills Birmingham, gyda thri ohonynt yn ennill Arian ac un yn ennill Efydd. Yn ogystal, roedd dau o fyfyrwyr Nicola wedi cipio medaliynau Rhagoriaeth wrth gynrychioli Tîm y DU yn EuroSkills Budapest 2018 a WorldSkills Kazan 2019 – ynghyd â medal Arian yn y rowndiau terfynol yn Tsieina. Yn fwyaf diweddar, roedd hi’n mentora dysgwr a enillodd Aur yng nghystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol Bwyty.

Drwy gydol y pandemig, mae Nicola wedi parhau i arloesi a datblygu sgiliau dysgwyr, gan gyflwyno sesiynau ymarferol byw ac asesiadau rhithwir, ac annog a chefnogi pawb yn ystod y cyfnod emosiynol iawn hwn. Mae hi’n fodel rôl bendigedig sydd wedi ysbrydoli dysgwyr di-ri i anelu mor uchel ag sy’n bosibl, ni waeth beth yw eu cefndir neu eu man cychwyn.

"Ar ôl blwyddyn arbennig o anodd a heriol, pan oedd rhaid i bob un ohonon ni addasu i ffordd newydd o fyw, dysgu ac addysgu, dwi wrth fy modd bod y Coleg wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori mor amrywiol,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Mae rhoi profiad y dysgwr wrth wraidd popeth a wnawn wedi bod yn bwysicach nag erioed yn ystod y 12 mis diwethaf a hoffwn i ddiolch, unwaith eto, i staff addysgu a chymorth y Coleg am eu hymrwymiad, eu hymroddiad a’u doniau hynod." 

"Mae darparwyr addysg bellach wedi rhagori yn yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn heriol tu hwnt ac mae’r unigolion, y timau a’r sefydliadau anhygoel ar ein rhestr fer Gwobrau AB TES yn dangos hynny," dywedodd Pennaeth AB TES, Julia Belgutay. "Roedd safon y cystadleuwyr wedi creu argraff fawr ar ein beirniaid a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer – mae’n gyflawniad tan gamp."

Bydd enillwyr Gwobrau AB TES yn cael eu cyhoeddi ar-lein ar 28 Mai 2021.