Skip to main content
Coleg yn dathlu ail Wobrau Prentisiaethau

Coleg yn dathlu ail Wobrau Prentisiaethau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal seremoni wobrwyo arbennig i brentisiaid a chyflogwyr.

Cafodd y digwyddiad, a gyflwynwyd gan Ross Harries o Scrum V Live BBC Wales, ei gynnal i anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol ‘y gorau o’r goreuon’.

Ymhlith enillwyr y gwobrau roedd dysgwyr sydd wedi cwblhau prentisiaethau mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau o Lefel 2 hyd at Lefel 5. Yn wir, un o enillwyr y noson – Cory Allen – yw’r dysgwr cyntaf i ddechrau prentisiaeth gradd yn y Coleg.

Mae nifer wedi goresgyn rhwystrau sylweddol i gael llwyddiant, datblygu eu gyrfaoedd a gwneud cyfraniad sylweddol i’w cyflogwr a’r economi ehangach.

“Mae gwrando ar rai o ôl-storïau yr enillwyr heno yn tynnu ein sylw unwaith eto at y ffaith bod y buddion yn sylweddol, er bod gwneud prentisiaeth yn golygu llawer iawn o ymrwymiad” meddai Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes y Coleg, Paul Kift. “Mae prentisiaethau’n gallu para rhwng un a phedair blynedd ac, yn ystod y cyfnod hwn, yn aml bydd y dysgwr yn jyglo gwaith, hyfforddiant, astudiaethau a bywyd cartref er mwyn datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig cydnabod y storïau llwyddiant gwych hyn.”

“Un o rolau allweddol unrhyw goleg addysg bellach yw cefnogi ein cyflogwyr lleol, a chan fod y galw am brentisiaethau wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu ymateb i’r galw hwn a chynhyrchu’r prentisiaid o safon uchel rydyn ni’n cwrdd â nhw heno,” meddai’r Pennaeth Mark Jones.

Dyma holl enillwyr y noson:
Cyfrifeg – Nigel Williams (DVLA)                                                 
Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol – Jacob Davies (BIPBA)                        
Gosod Brics – Rhys Barrow (Cyngor Abertawe)                                    
Gweinyddu Busnes – Laura Hurford (Gwasanaeth Ambiwlans Cymru)        
Technegau Gwella Busnes – Paul Davies (DecTek)                
Gwaith Coed – Kyle Freeman (Cyngor Abertawe)
Gofal Plant – Barbara Smith (The Childrens Room)
Canolfan Gyswllt – Christine Hutchins (DVSA)                                                 
Gweithrediadau Adeiladu – James Gethin (WDL)
Gwasanaeth Cwsmeriaid – Justine Beresford (Tai Tarian)                                         
Prentis Trydanol – Jordan Johnstone (Gavin Electrical Engineering)
Electroneg – Richard Kostromin (One Vision)                                                   
Peirianneg – Cory Allen (Sumitomo Electric Wiring Systems)
Rheoli Cyfleusterau – Marika Jones (Jones Lang LaSalle)
Trin Gwallt – Courtney Williams (Dash Hair Design)                
Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Kyle Coleman (Gwasanaeth Dydd Norton Lodge)
Tai - Danielle Humphries (Cartrefi Cymoedd Merthyr)
Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd - Sarah Emery (BIPBA)                     
TG - Elizabeth McSloy (Gwasanaeth Ambiwlans Cymru Gyfan)
Labordy a Gwyddoniaeth - Hywel Cleaves (Tata Steel)          
Arweinyddiaeth a Rheolaeth - Sarah Grabham (The Wallich)
Cerbydau Modur - Matthew Evans (Cawdor Cars)                   
Peintio ac Addurno - Adam Williams (Martyn Morgan)
Plymwaith - Daniel Rees (GR Plumbing and Heating)                         
Diogelwch - Thomas Pearce (CCTV Wales)                                                                              
Prentis Sylfaen y Flwyddyn - Linda James (Linc Cymru)            
Prentis y Flwyddyn - Oliver Degay (RJD Building and Plumbing)
Prentis Uwch y Flwyddyn - Hywel Cleaves (Tata Steel)                                   
Gwobr Arloesedd Prentisiaeth - Tîm Profiad Defnyddwyr DVLA
Gwobr Cyflawniad Eithriadol Cyflogwr Prentisiaeth - BIPBA
Gwobr Cyflawniad Eithriadol - Cheradine Jones (Pobl Group)     
Tiwtor/Aseswr Prentisiaeth – Amy Herbert (Coleg Gŵyr Abertawe)                  

Wrth gwrs, heb gyflogwyr ni fyddai unrhyw brentisiaid ac felly rhoddwyd tair gwobr arbennig hefyd i sefydliadau lleol i gydnabod y cymorth rhagorol maen nhw’n ei ddarparu ac am y buddsoddiad maen nhw’n ei wneud i ddatblygu sgiliau talentau newydd a phresennol.

Cyflogwr Prentisiaeth (0-49 o weithwyr) – Cymdeithas Tai Bro Myrddin                     
Cyflogwr Prentisiaeth (50-249 o weithwyr) - Cymdeithas Tai Newydd    
Cyflogwr Prentisiaeth (250+ o weithwyr) - Cyfoeth Naturiol Cymru                 

DIWEDD

Diolch yn fawr i’r adrannau canlynol sydd wedi sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant:

  • Ein myfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo, dan arweiniad Nicola Rees, am y bwffe a’r lluniaeth gwych
  • Band Jazz Campws Gorseinon, dan arweiniad Simon Prothero, am ddarparu’r adloniant wrth gyrraedd
  • Ein myfyrwyr Lefel 3 Cynhyrchu yn y Theatr a Digwyddiadau Byw, dan arweiniad Adrian Hocking, am eu gwaith ardderchog ar y set, y goleuo a’r sain
  • Ein triawd canu Cymraeg – Catherine Phillips, Megan Haf Lewis a Denise Agudilla – am y perfformiad cerddorol agoriadol.

Lluniau: Peter Price Media