Skip to main content
Coleg yn ennill statws Aur NEBOSH

Coleg yn ennill statws Aur NEBOSH

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill statws Partner Dysgu Aur NEBOSH - sêl bendith swyddogol am addysgu cyrsiau iechyd a diogelwch.

Ar hyn o bryd, trwy ei ddarpariaeth Hyfforddiant GCS a leolir yn Llys Jiwbilî, Fforestfach, mae’r Coleg yn cyflwyno pedwar cwrs NEBOSH achrededig - Tystysgrif Gyffredinol mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol, Tystysgrif Lefel 3 mewn Diogelwch Tân a Rheoli Risg, Tystysgrif Genedlaethol mewn Rheolaeth Amgylcheddol, a Thystysgrif Genedlaethol mewn Adeiladu ac Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (NCC1 a 2).

Mae NEBOSH yn sefydliad byd-eang blaenllaw sy’n darparu cymwysterau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sy’n helpu i wella cymhwysedd gweithwyr proffesiynol diogelwch a’r amgylchedd yn ogystal ag unigolion ar bob lefel yn y gweithle.

I fod yn gymwys ar gyfer statws Aur, roedd y Coleg wedi dangos ei fod yn ‘rhagori’n fawr’ ar ddisgwyliadau o ran cyflawni chwe egwyddor rhagoriaeth dysgu a nodwyd, sef:

  • Sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt a’r hyn y gallant ei ddisgwyl gan eu darparwr dysgu
  • Creu amgylchedd dysgu sy’n ennyn diddordeb ac yn annog rhyngweithio sy'n briodol ar gyfer y cwrs a'r math o addysgu
  • Darparu deunyddiau cwrs cywir a’u diweddaru a’u gwella’n barhaus
  • Sicrhau bod tiwtoriaid yn gymwysedig, yn wybodus, yn gymwys ac yn ennyn diddordeb dysgwyr
  • Rhoi adborth i ddysgwyr ar eu cynnydd a darparu cymorth priodol
  • Adolygu darpariaeth cyrsiau ac adborth dysgwyr a gweithredu yn ôl yr angen

“Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi ennill statws Partner Dysgu Aur NEBOSH,” meddai Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes Coleg Gŵyr Abertawe. “Mae hyn yn dyst nid yn unig i broffesiynoldeb a safonau uchel ein staff addysgu ond hefyd tîm cyfan Hyfforddiant GCS sy’n helpu ac yn cefnogi ein cwsmeriaid niferus trwy eu profiad dysgu.”

Adborth diweddar gan gwsmeriaid:

Roedd defnyddio Coleg Gŵyr Abertawe ar gyfer fy asesiad Tân a Risg NEBOSH yn brofiad hawdd a difyr. O’r cychwyn cyntaf, rhoddwyd yr holl fanylion i fi ... trwy gydol y cwrs hyfforddais i gyda grŵp ac roeddwn i’n gwybod bod cymorth 1-2-1 ar gael pan oeddwn i ei angen ... roedd gan fy nhiwtor arddull addysgu bleserus, gan weithio trwy’r maes llafur a dod ag ef yn fyw trwy ei brofiadau a’i straeon personol ei hun ... mae'r cwrs yn bleserus iawn ac yn werth y daith bedair awr o Barnstaple ... bob wythnos
Dennis Hassan, Rheolwr Gweithrediadau (PH Jones – rhan o Nwy Prydain)    

“Ar ôl cwblhau Tystysgrifau Cyffredinol, Amgylcheddol a Thân NEBOSH gyda Choleg Gŵyr Abertawe, hoffwn i ddweud pa mor addysgiadol oedd y cyrsiau. Roedd fy nhiwtoriaid wedi gwneud y cyrsiau’n ddiddorol, gyda llawer o enghreifftiau bywyd go iawn o’u profiad ym maes EHS."
Gary John, Uwch Dechnegydd (3M)