Skip to main content
Coleg yn lansio Cynllun Strategol drafft 2020-2024

Coleg yn lansio Cynllun Strategol drafft 2020-2024

Mae datblygu cynllun strategol yn hanfodol i bob sefydliad er mwyn helpu i osod y ffordd ymlaen. 

Cyn y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, gwnaethom ddechrau datblygu ein cynllun newydd ar gyfer y pedair blynedd nesaf - ac ers dychwelyd rydym bellach wedi cwblhau cynllun drafft. 

Ein cam nesaf yw rhannu’r cynllun drafft hwn gyda chi, ein myfyrwyr, ein staff a’n partneriaid allweddol, i gael eich barn a'ch sylwadau ynghylch a ydym wedi cael hyn yn iawn ac, os na, beth arall y mae angen i ni ei gynnwys. 

Ewch i dudalen we ddynodedig ein Cynllun Strategol i weld fideo rhagarweiniol byr gan y Pennaeth Mark Jones a’i uwch gydweithwyr, ac i lawrlwytho copi o’r cynllun drafft.

Rydyn ni’n awyddus iawn i gael eich adborth ar y cynllun drafft hwn ac felly rydyn ni hefyd wedi cynnwys holiadur byr rydyn ni’n eich annog i’w lenwi ar ôl gweld y fideo a’r ddogfen.

Cyflwynwch eich adborth erbyn 31 Rhagfyr 2020 fel y gallwn ni sicrhau bod unrhyw sylwadau’n cael eu hystyried wrth i ni barhau i lunio ein Cynllun Strategol.