Skip to main content
Coleg yn penodi yr Athro Tom Crick MBE i arwain menter ddigidol

Coleg yn penodi yr Athro Tom Crick MBE i arwain menter ddigidol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi penodi'r Athro Tom Crick MBE i arwain ei ymgyrch i ddatblygu sgiliau digidol ar gyfer cyflogwyr yn yr ardal.

Mae'r Athro Crick yn gyfarwyddwr anweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Dŵr Cymru, yn ogystal ag Is-lywydd BCS, y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG. Mae wedi bod yn arweinydd digidol allweddol yng Nghymru ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio fel cynghorydd arbenigol i Lywodraeth Cymru: yn 2013 cadeiriodd yr adolygiad annibynnol o'r cwricwlwm TGCh yng Nghymru ac yn 2015 cadeiriodd ddatblygiad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd. Yn 2017, cafodd Tom ei benodi'n Gadeirydd y Rhwydwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, buddsoddiad o £4m gan Lywodraeth Cymru.

Mae Tom hefyd wedi cael sawl swydd ymgynghorol proffil uchel yn y DU ym maes gwyddoniaeth ac arloesi a chafodd ei anrhydeddu'n MBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2017 am ei wasanaethau i gyfrifiadureg a hyrwyddo addysg cyfrifiadureg.

“Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio â Choleg Gŵyr Abertawe ar ei weledigaeth ddigidol a fydd yn adeiladu ar ei bortffolio a'i weithgareddau presennol," dywedodd yr Athro Crick. “Mae hwn yn amser hollbwysig i'r sector AB yn ogystal ag ardal ehangach dinas-ranbarth Abertawe, a bydd cyfleoedd pwysig i weithio gyda phartneriaid allweddol o fyd diwydiant a'r sector cyhoeddus i ddarparu'r sgiliau gwerth uchel sydd eu hangen nawr ac a fydd eu hangen dros y pump i ddeg mlynedd nesaf."

“Mae cyswllt cryf rhwng y rôl hon a'm gwaith ar y cwricwlwm newydd yng Nghymru, yn ogystal â datblygu economi ddigidol ffyniannus.  Mae awydd clir gan y Coleg i fod yn arloeswr ym maes sgiliau digidol yn yr ardal, gan gefnogi'r Fargen Ddinesig ac adeiladu cymunedau gwydn a chynaliadwy."

“Rwy'n falch i groesawu Tom i dîm Coleg Gŵyr Abertawe," ychwanega Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes. “Mae Tom yn arbenigwr mawr yn ei faes ac roeddwn i'n gyffrous iawn pan gytunodd i helpu'r Coleg i bontio'r bwlch sgiliau digidol sydd i'w weld ar draws y DU ar hyn o bryd.

“Mae sgiliau digidol arloesol wedi cael eu nodi fel rhywbeth allweddol ac angenrheidiol o fewn nifer o brosiectau arfaethedig Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Er mwyn sicrhau bod gan yr ardal y galluoedd a fydd yn cynnig modd iddi ffynnu, bydd Tom yn ymgysylltu â chyflogwyr, yn adolygu darpariaeth ddigidol bresennol y Coleg ac yn datblygu cyrsiau arloesol i wella'r diwydiant lleol.  Edrychwn ymlaen at gydweithio i greu'r doniau y mae eu hangen ar yr ardal."