Skip to main content
Recognition for College’s flagship employability programme

Cydnabod rhaglen cyflogadwyedd flaengar y Coleg

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei enwi yn enghraifft o arfer dda mewn adroddiad blaenllaw ar ddyfodol colegau yng Nghymru.

Mae Coleg y Dyfodol ar gyfer Cymru yn galw am newid radical yn rôl colegau yng ngweledigaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’r adroddiad, a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Annibynnol ar Goleg y Dyfodol, yn un o gyfres sy’n darparu argymhellion ar gyfer Addysg Bellach ym mhob un o’r pedair gwlad yn y DU.

Fel rhan o’i argymhelliad ar rôl colegau o ran adeiladu cymunedau iach, cydlynol a chynaliadwy, mae’r adroddiad yn canmol cymorth cyflogadwyedd arloesol Coleg Gŵyr Abertawe i bobl ifanc ac oedolion trwy ei raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.

Datblygwyd y fenter gan y Coleg i helpu pobl ifanc ac oedolion yn Abertawe i ennill, cadw a symud ymlaen yn eu cyflogaeth ac mae’n darparu amrywiaeth o gymorth hyblyg a phersonol i unigolion a busnesau ar draws Abertawe.

Fel rhan o gyfres gynyddol o gymorth cyflogaeth y Coleg, mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau. Er 2017, mae’r Coleg wedi helpu dros 4,000 o unigolion ar draws Abertawe, gydag 84% o’r rhai sy’n cwblhau rhaglenni’n symud ymlaen i waith newydd neu well. Mae hefyd wedi helpu dros 450 o gyflogwyr yn y rhanbarth i atgyfnerthu a datblygu eu gweithlu.

Mae myfyrwyr amser llawn yn y Coleg hefyd wedi elwa, ac mae Hybiau’r Dyfodol penodedig yn cynnig cymorth cyflogaeth a gyrfaol arbenigol i’r holl fyfyrwyr ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Mae’r hybiau hyn yn chwarae rôl allweddol o ran cyflawni Gwarant Coleg Gŵyr Abertawe - ymrwymiad y Coleg i helpu dysgwyr i symud ymlaen i swydd, prentisiaeth, dysgu pellach neu uwch, neu barhau â chymorth cyflogadwyedd ar ôl cwblhau eu cwrs.

Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth Mark Jones: “Rydyn ni wrth ein bodd bod y Comisiwn wedi cydnabod y gwaith gwych sy’n cael ei wneud trwy ein rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Mae’n fenter rydyn ni’n hynod falch ohoni, un sydd wedi rhoi modd i’r Coleg chwarae rôl fwy fyth, gan weithio’n agos gyda phartneriaid, i gefnogi a gwasanaethu ein cymuned leol. Mae’n rôl sydd wrth wraidd popeth a wnawn yma yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac sydd, yn yr hinsawdd sydd ohoni, yn fwy pwysig nag erioed yn ein barn ni.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael trwy’r rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, ewch i’w gwefan, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch info@betterjobsbetterfutures.wales